HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen Llithrig y Wrach a Phen yr Helgi Du 28 Chwefror


Roedd y pump ohonom a gyfarfu yng Nghapel Curig yn disgwyl glaw felly roeddem yn ddigon bodlon cael diwrnod sych os cymylog!  Braidd yn annisgwyl oedd canfod dau grŵp arall hefyd yn croesi’r gweundir tua Bwlch Trichwmwd ond, wrth i ni oedi yno am baned, dal ati wnaethon nhw am Lyn Cowlyd gan ein gadael ni i ddringo llethrau serth Pen Llithrig.  Gyda’r gwynt yn cryfhau a dim golygfa i’w mwynhau, troi ar ein sawdl oedd hi i lawr i Fwlch y Tri Marchog cyn codi eto tua Phen yr Helgi Du, yr uchaf o 34 medr o’r ddau gopa – wedi dod o hyd i fan cysgodol i gael cinio a golygfa mynd-a-dod o Gwm Eigiau oddi tanom.  Ar i  lawr yn raddol oedd hi wedyn ar hyd grib hir a glaswelltog Y Braich i gyrraedd y ffordd fawr ger ffarm Tal-y-braich a chroesi’r A5 i’r llwybr yn ôl i’r man cychwyn heibio’r Gelli, cartref y naturiaethwr hynod, Evan Roberts.   Croeso arbennig i Elan o Aberystwyth oedd ar ei thaith gyntaf efo’r clwb a gobeithio ei bod wedi mwynhau cwmni Iolo (Caernarfon), Richard (Rhuthun), Alun (Caergybi) ac Eryl.


Adroddiad gan Eryl Owain