HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Nantlle 28 Mawrth



Roedd  rhagolygon y  tywydd ar gyfer diwrnod taith Crib Nantlle yn addo gwyntoedd cryf, glaw yn y bore ac ysbeidiau heulog a chawodydd yn y prynhawn! Felly roedd y glaw ym maes parcio Rhyd Ddu yn y bore  yn ddisgwyliedig. Er gwaethaf y tywydd, roedd  Cemlyn, Sioned, Rhodri, Bruce,  Eryl, Gareth Wyn, Dewi(o’r de), Myfyr, Sian Port, Gwyn (Chwilog), John Parry,Rhys, Huw (o Ben Llŷn ar ei daith cyntaf hefo’r clwb), Iolo a minnau wedi troi allan ac yn barod i fentro.

Wrth ddringo’n  serth i gopa’r Garn roeddem yn ffodus i gael rhywfaint o gysgod rhag y gwynt ac fe fanteisiwyd ar y cyfle i gael paned sydyn yng nghysgod y wal cyn mentro i’r copa ac i’r gwynt a’r glaw. Yn ein blaenau wedyn ar hyd y grib am Fynydd Drws  y Coed, yn aml yn cael cysgod o’r gwynt ond y glaw yn ddi-drugaredd ar gyfnodau. Cael lloches ger wal arall ger copa Mynydd Tal-y-Mignedd i gael cinio. Y glaw wedi peidio erbyn hyn ond y cymylau a’r niwl yn dal yn isel.

Ar ol cinio dringo  Craig Cwm Silyn, rhai yn dilyn y llwybr ac eraill yn sgramblo. Ymlaen wedyn am Garnedd Goch a Mynydd Craig Goch. Dipyn o ddadl ar y  copa olaf ynglyn ag union leoliad y copa!
Roeddem wedi disgyn  dipyn cyn dod allan o’r cymylau a’r niwl a chael golygfeydd, ac felly wedi cwblhau’r grib ar ei hyd yn y niwl. Serch hynny cafwyd digon o hwyl a sgwrsio yn ystod y dydd ac fe lwyddwyd i ddarbwyllo Dewi a oedd heb wneud y daith o’r blaen fod golygfeydd gwych i’w gweld  mewn amgylchiadau gwell a’i bod yn werth iddo ei mentro eto mewn tywydd  mwy ffafriol!
Cyrhaeddom yn ôl i’r ceir yn Nebo erbyn 5 o’r gloch ac wrth gwrs wrth deithio yn ôl am Ryd Ddu fe welwyd  fod y cymylau a’r niwl wedi codi a chopaon y grib yn glir erbyn hynny.

Diolch i bawb am eu cwmni ac fel yr addawyd mae  cyfrinachau’r sawl oedd wedi cyrraedd Rhyd Ddu yn y bore wedi anghofio ei esgidiau cerdded a’r sawl fentrodd allan hefo ffyn rhywun arall wedi eu cadw!!

Adroddiad gan Morfudd

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR