Yr Alban (Shiel Bridge) 15-22 Chwefror

        
      Cafwyd llety cysurus a hwylus dros ben  yn y Shiel Lodge, 17 ohonom dan yr un to mewn hen blasdy hela a thri arall wedi  gwneud eu trefniadau eu hunain gerllaw.   Cafwyd tywydd cymysglyd, yn eithaf sych am y deuddydd cyntaf ond yna  glaw trwm ganol yr wythnos cyn gwella eto wedyn – a gwynt cryf dros ben ar rai  dyddiau yn ychwanegu at yr ymdrech.
      Dewisodd y rhan fwyaf gerdded gyda’i gilydd ac felly cafwyd criwiau o  rhyw ddeg i ddwsin ar y rhan fwyaf o’r teithiau, gyda rhai’n dewis ambell  ddiwrnod o feicio, ymweld ag ynys Skye ac ati er mwyn amrywiaeth.  Ac i brofi bod Clwb Mynydda Cymru’n glwb i  bawb, roedd yr oedran yn amrywio o’r ugeiniau i 72!
Dydd  Llun, 16 Chwefror – An Diolliad a Sgurr na Sgine
        An  Diollaid ar hyd crib enwog y Forcan  ac yna Sgurr na Sgine oedd nod y  rhan fwyaf, ond Arwel a Dylan yn mynd a’u beiciau tua’r gogledd i roi cynnig ar  fwlch Bealach na Ba, un o’r dringfeydd serthaf a mwyaf heriol ar ynysoedd  Prydain.  Gan fod pen y bwlch dros 2,000’  o uchder, doedd dim rhyfeddod iddynt orfod troi’n ôl oherwydd trwch o eira ar y  ffordd!    
      Cafwyd tipyn o eira ar y Forcan hefyd oedd yn ein harafu ond llwyddwyd i  groesi’r grib, gyda rhai rhannau digon heriol, hyd at y dibyn deng medr  unionsyth cyn codi am y copa, ble bu’n rhaid gosod rhaff i fynd lawr y llethr  eira i’r chwith.  Barnwyd nad oedd digon  o amser i fachu dau gopa, felly penderfynwyd peidio ail esgyn i’r grib am An  Diollaid (sydd, ysywaeth, yn fwy adnabyddus bellach wrth ei enw Saesneg,  Saddle) ond yn hytrach mynd yn syth am Sgurr na Sgine gyda’r cymylau’n codi i  ddatgelu rhesi ar resi o gopaon i bob cyfeiriad.  Wedi taith hir lawr Coire Mhalagain  cyrhaeddwyd yn ôl at y ceir fel roedd yn tywyllu.
Dydd  Mawrth, 17 Chwefror – Beinn Fhada ac A’ Ghlas-bheinn
        Taith fer yn y ceir i Strath Croe oedd  hi’r bore wedyn gyda’r rhagolygon yn addo glaw a gwyntoedd cryfion o hyd at  60-70 milltir yr awr.  Er hynny, roedd yn  sych ar hyd y llwybr graddol i fyny’r cwm ac yna’r fwy serth tuag at Beinn Fhada gyda’r gwynt yn ei gwneud  yn anodd i sefyll yn unionsyth – ond o leiaf roedd yn wynt cyson a llwyddodd  pawb i gyrraedd y copa heb ormod o drafferth.   Penderfynwyd dychwelyd am rhyw ddwy filltir ar hyd yr un llwybr yn  hytrach na mynd lawr dibyn serth yn unionsyth at yr ail gopa – penderfyniad  doeth!  Roedd rhai wedi cael digon ar  frwydro yn erbyn y gwynt ac aethant am y ceir ond aeth y rhan fywaf yn eu blaen  i fyny i fwlch y Beallach na Sgairne (a gwynt cryfa’r wythnos!) cyn esgyn A’ Ghlas-bhein dros nifer o ‘gopaon  ffug’.  Erbyn hynny roedd y cymylau wedi  cau amdanom a’r glaw yn disgyn yn ddi-baid wrth inni frasgamu lawr yr ysgwydd  gogledd-orllewinol i gyrraedd fordd coedwigaeth yn ôl i’r maes parcio.  
      Unwaith eto aeth Dylan ac Arwel eu ffordd eu hunain – i Maol Chean Dearg – gyda Sian yn gwmni  iddynt.
Dydd  Mercher, 18 Chwefror – Moruisg
        Glaw di-baid a chyson drwy’r dydd oedd  addewid pobl y tywydd felly dewisiwyd Moruisg,  rhyw 35 milltir i ffwrdd yng Nglen Carron.   Wedi parcio ar ochr y ffordd, roedd llwybr yn arwain yn syth at ysgwydd laswelltog  ond serth iawn mewn mannau yn union i’r copa.   Llwyddodd pawb i gyrraedd y brig mewn tua dwyawr ac i lawr mewn awr –  gyda’r tri ifanc, Huw, Dan a Gerallt lawr mewn llai na hanner hynny.  Gan fod copa cyfagos Sgurr na Ceanaichan wedi  ei ail-fesur yn ddiweddar yn 913 medr ac felly wedi colli ei le ar restr  swyddogol y Munros, doedd neb awydd ymestyn y daith ar hyd y grib tuag ato – er  ei fod, ar ddiwrnod clir, beth bynnag, yn fynydd llawer mwy urddasol na’i  gymydog sydd bymtheg medr yn uwch.  Ac  roedd y rhagolygon yn berffaith gywir – glaw trwm a gwynt cryf drwy’r dydd, ond  o leiaf roedd tân cysurus yn ei haros nôl yn y llety!
     Teithiodd Dylan ac Arwel ymhellach i’r gogledd i esgyn Fionn Bhein o Achnasheen – mynydd digon  tebyg, 933 medr o uchder.
Dydd  Iau, 19 Chwefror – Beinn Sgriatheall
        Y mwyafrif yn troi tua’r gorllewin ac  ar hyd ffordd gefn gul dros Bealach Ratagan ac i Glenelg a pharcio rhyw ddwy  filltir o Arnsdale, un o bentrefi mwyaf anghysbell tir mawr yr Alban yn edrych  ar draws Loch Hourn tuag at diroedd gwyllt Knoydart.  Esgynwyd crib orllewinol hynod o serth Beinn Sgriatheall gydag awyr las yn dod  i’r golwg a golygfeydd dramatig i lannau’r loch yn unionsyth bron oddi  tanom.  Roedd peth hen eira o bobtu’r  copa a chafodd y rhai oedd yn dymuno hynny gyfle i wisgo eu cramponau cyn mynd  tua’r de-ddwyrain i Bealach Arnasdail ac i lawr i’r pentref lle’r car wedi ei  adael i fynd â’r gyrrwyr nol i’r man cychwyn.   Diwrnod gwych – yr unig siom oedd fod cwmwl a chawod o law wedi digwydd  taro pan oeddem ar y copa a bod y dafarn yn Glenelg (Open All Day) ddim yn agor tan bump!
      Gan fod Dylan eisoes wedi dringo Beinn Sgriatheall, Moruisg oedd y gyrchfan iddo ef ac Arwel y tro yma!   Tybed a ddylid egluro nad oeddem wedi ffraeo  efo nhw o gwbl!
Dydd  Gwener, 20 Chwefror – Maol Chean-dearg
        Aeth y rhan fwyaf yn ôl tua Glen Carron  a gadael y ceir ar ochr y ffordd ger pont Coulag a cherdded yn hamddenol i fyny  cwm braf am rhyw dair milltir, gan oedi am baned mewn cysur cymharol dan do  mewn bothy, a oedd gan mlynedd yn ôl  yn gartref anghysbell i gipar a thrwsiwr llwybrau a’i wraig.  Yn fuan wedyn, roedd yn rhaid esgyn yn fwy  serth i Bealach a’ Choire Ghairbh i fwynhau’r olygfa ar draws loch uchel at  fynydd creigiog o dywodfaen coch An Ruadh-stac cyn troi i’r cyfeiriad arall  tuag at ein copa ni, Maol Chean-dearg,  a’r enw “pen moel coch” yn adlewyrchu natur y graig.  Unwaith eto, daeth y cymylau i lawr o bobtu’r  copa ond llwyddwyd ar y ffordd i fyny i gael cip ar bentref Torridon a godre  mynyddoedd mawreddog Beinn Alligin a Liathach.   Cafwyd peth haul wedyn wrth ddychwelyd yr un ffordd ond cawod y law am  yr ugain munud olaf i’n gwlychu cyn cyrraedd y ceir.
      Arhosodd eraill yng Nglen Shiel.   Cafodd Dylan ac Arwel (roeddem dal yn ffrindiau!) ddiwrnod gwych ar eira  caled a chrib fain Ciste Dhubhi’r  gogledd o Loch Cluanie a’r dafarn enwog o’r un enw.  
      Roedd y tri ifanc wedi gadael yn gynnar gyda’r bwriad o gerdded saith  copa ar hyd crib ddeuheuol Glen Shiel, gan fynd o’r gorllewin tua’r dwyrain gan  obeithio y byddai’r gwynt i’w cefnau.  Cawsant  hwythau eira da a chyfle i wisgo cramponau ar hyd y copaoan gyda Dan a Huw’n  rhoi’r gorau iddi cyn y diwedd ond Gerallt yn bachu’r saith – Creag nan Damh, Sgurr an Lochain, Sgurr an  Doire Leathan, Maol Chin-dearg, Aonach air Chrith, Druim Shionnach a Creag  a’Mhaim – mewn tuag wyth awr.
Dydd  Sadwrn, 21 Chwefror – Bla Bheinn
        Penderfynodd llawer ddychwelyd adref er  gwaethaf rhagolygon twydd da a’r bwriad i groesi i Skye i ddringo mynydd gwych Bla Bheinn, yr unig Munro ar yr ynys sydd ar wahân i’r  un-ar-ddeg ar grib enwog y Cuillin – ond mynydd sydd o’r un natur greigiog gyda  chribiau culion a hafnau serth yn codi syth o lefel y môr.  Ac mi gafodd y rhai a fentrodd aros, ddiwrnod  i’w gofio gyda thywydd da a golgfeydd ysblennydd a digon o eira hefyd i osod  peth her – diwrnod gorau’r wythnos meddan nhw!
        
        Y criw:   Raymond Wheldon-Roberts, Marion Hughes, Arwel Roberts, Dewi Hughes, Eryl  Owain, Gerallt Owain, Gareth Williams, Dylan Huw, Prys Ellis, Dan Pyrs, Mike  Royle, Gareth Wyn, Sian Williams, Maldwyn Roberts, Gareth Roberts, Huw  Brassington ac Iolo Roberts yn aros yn y Lodge ac Iolyn Jones ac yna Anita  Daimond a Gwyn Roberts tua diwedd yr wythnos yn Shiel Bridge. 
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan Gareth Roberts a Iolo Roberts ar FLICKR
