HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd 3 Rhagfyr

Ar fore digon oer, daeth saith o aelodau ynghyd i fwynhau golygfeydd ysblennydd Dyffryn Clwyd: Alun; Eirlys; Eirwen; Gwyn; John Arthur; Sw; a Richard.

Yn gyntaf, esgyn Moel Fenlli ac yn ôl i lawr i’r maes parcio cyn cerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa i gyfeiriad copa Moel Famau lle cafwyd paned. Ymlaen dros Moel Dywyll cyn disgyn yn serth i’r bwlch cyn cymryd detour arall sydyn i gopa Moel Arthur.

Cerdded lawr yr hen lôn drol wedyn cyn troi i gyfeiriad y de-ddwyrain gyda thir toreithiog Dyffryn Clwyd ar y dde a godrau Bryniau Clwyd ar y chwith i ni. Cafwyd cyfle i weld tri o’r hen dai ffynhonnau a bu cryn ddamcaniaethu o ran sut y bu i un ffermwr farw yn dilyn ‘carwriaeth anffodus’!

Wedi croesi Nant-y-Ne, penderfynwyd dringo heibio Moel y Gaer yn ôl at lwybr Clawdd Offa; roedd hyn yn golygu esgyn bron i fil o droedfeddi mewn ychydig dros gilometr.

Yn ôl i Fwlch Pen Barras cyn pedwar o’r gloch.

Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Richard Roberts ar FLICKR