HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Grwyne Fawr 4 Awst

Cafodd pawb fu ar faes yr Eisteddfod ddiwrnod dymunol yn haul Y Fenni tra bu criw Clwb Mynydda Cymru yn niwloedd a glaw mân y Mynyddoedd Duon. Roedd pethau'n argoeli yn addawol i'r dau ddeg pump ohonom wrth i ni gyfarfod yn y mae parcio ond buan iawn y diflannodd y mymryn o awyr las. Cawsom gip ar weddillion y pentref a godwyd adeg adeiladu argae Grwyne Fawr cyn troi i'r gorllewin tuag at gopa Pen y Gadair Fawr. Wedi gadael y rhedyn llaes a gwlyb, daeth y gwynt a'r glaw a ni welwyd fawr ddim o ben Pen y Gadair Fawr na Waen Fach.
                               
Trwy drugaredd, daeth bwlch yn y cymylau wrth i ni anelu am y gogledd a Phen Rhos Dirion. Cafwyd cip ar Fynydd Troed a Bannau Brycheiniog, ond efallai mai'r olygfa ryfeddaf oedd gweld gleider yn suo heibio.

Wrth droi yn ôl tua'r de mi gododd y cymylau a chawsom weld lle 'roeddem wedi bod yn gynharach. Tua'r dwyrain daeth Twmpa (Lord Hereford's Knob) a Phenybegwn (Hay Bluff) i'r golwg. Dyma gynefin merlod y Mynyddoedd Duon a bu sawl wwww! ac aaaa! pan welwyd yr ebolion bach. Wrth i ni groesi cefn Tarren yr Esgob daeth cronfa Grwyne Fawr i'r golwg a diddorol oedd clywed gan Bruce Lane am ei waith yn cadw golwg ar sefydlogrwydd yr argae.

Llwybr cul a thywyll dan y coed pîn ac yna'r coed ffawydd oedd cymal olaf y daith yn ôl i'r man cychwyn. Gobaith pawb oedd galw am beint yn nhafarn Y Sgyryd ond siom oedd cael y drws wedi ei gloi!

Digby, Alun, Dei, Richard R, Bruce, Lisa, Anet, Meirion, Eurig, Sue, Gwilym, Richard M, Helen, Cheryl, Eirlys, Sioned, Dilys, Aneurin, Angharad, Eirwen, Elen, Alison, Eryl, Dwynwen a Gerallt

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR