HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cnicht a'r Moelwynion 5 Tachwedd

Ymunodd 21 o aelodau â mi i fentro fyny’r Cnicht a thu hwnt ar ddiwrnod Cyfarfod Blynyddol y Clwb. Roedd yn fore oer a sych gyda’r rhagolygon tywydd yn addo diwrnod eitha gydag ambell i gawod.

Cychwynnom o faes parcio Croesor a cherdded trwy’r pentre ac ar hyd y ffordd nes cyrraedd y llwybr sy’n  arwain ar i fyny at gopa’r Cnicht. Wrth ddringo roeddem yn gweld bod y gaeaf yn wironeddol wedi cyrraedd bellach gan fod haenan o eira ar gopa’r Wyddfa. Cael paned sydyn mewn man  cysgodol ar y darn gwastad nid nepell o’r copa cyn dringo’r  darn olaf. Roedd yn reit wyntog ar y copa felly yn ein blaenau a ni am Lyn yr Adar a dioddef  cawod o genllysg digon annifyr wrth fynd. Wedi cyrraedd yno newid cyfeiriad ac  ymlwybro  (gan geisio osgoi ‘r darnau gwlypaf!!) i lawr i Chwarel Rhosydd heibio Llyn Cwm-corsiog. Cawsom ginio yn cysgodi yn hen adeiladau’r chwarel ac bachodd Gerallt ar y cyfle i  dynnu llun o’r grwp. Ar ôl cinio gadawodd tri aelod ni i fynd i lawr i weld gêm  rygbi Cymru yn erbyn Awstralia (camgymeriad meddan nhw ar ôl y canlyniad!!) tra dringodd  y gweddill ohonom tuag at gopa'r Moelwyn Mawr. Wrth ddringo roeddem yn cael golygfeydd gwych ac yn gweld bod copaon gogledd Eryri erbyn hyn dan gymylau duon ac yn falch felly ein bod wedi dewis yr ardal yma ar gyfer ein taith. Wedi cyrraedd y copa, gan ei bod yn ddiwrnod y Cyfarfod Blynyddol, yn tywyllu yn fuan a chyda’r cymylau duon yn ymddangos fel petaent yn carlamu tuag atom, penderfynwyd peidio mynd ymlaen am y Moelwyn Bach ond yn hytrach mynd i lawr y fraich o gopa Moelwyn Mawr yn ôl i Groesor (Fodd bynnag, roedd un o’r criw yn teimlo yn egniol ac yn benderfynol o wneud tri chopa ac felly aeth yn ei flaen tros Moelwyn Bach hefyd!).

Diolch i Alun (Caergybi), Dylan Huw, Manon, Cheryl, Eirlys, Dei, Gwyn (Chwilog), Gwyn (Llanrwst) Sioned,  Hilary, Chris,  Mark (Bethesda), Gareth E, Elen, Gwen (Chwilog), Morfudd, Anet, John Arthur, Dwynwen, Gaenor a  Gerallt am eu cwmni difyr yn ystod y dydd.

Adroddiad gan Iolo Roberts.

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR