Gogledd y Carneddau 8 Hydref
Daeth 19 o aelodau ynghyd i’r maes parcio yn Eigiau fore Sadwrn. Roedd y proffwydi yn gaddo cymylau isel hyd ddiwedd y bore , gyda gweddill y diwrnod yn braf; a dyna beth a gafwyd!
Penderfynwyd mynd heibio yr argae ble mae’r twnel sy’n anfon dŵr i lyn Eigiau, sydd yn ei dro yn cyfeirio dŵr i Lyn Cowlyd trwy dwnel arall. O’r argae aethom i fyny Pant y Griafolen,heibio nifer o goed pin unig, ond dim criafolen, cyn cyrraedd y llety unig sydd yng nghysgod Melynllyn a Dulyn.
Wedi dringo tuag at Felynllyn a chael egwyl fach ; ymlaen trwy’r niwl mynydd gydag ochr ogleddol Melynllyn.Yng nghanol y niwl cafwyd argyfwng pan suddodd un teithiwr talog barfog at ei ganol mewn cors. Roedd y gwron yn sicr mewn niwl trwchus!
Fel y daethom i’r gefnen gerllaw Foel Grach, cododd y niwl i arddangos Carnedd Llywelyn a’r Elen ynghyd a chopaon is yn glir. Disgeiriodd yr haul wrth inni gael cinio ar y copa, a ninnau’n syllu ar y Fenai a Môn.
Aed ymlaen in Garnedd Gwenllian, Foel Fras a’r Drum, cyn troi tua’r dwyrain a disgyn tros ysgwydd Moel Lwyd, a thros Pen y Castell, cyn croesi tuag at yr argae a’r twnel eto, ac ail droedio y llwybr yn ôl i’r maes parcio.Roedd traed sawl un yn wlyb, er gwaethaf addewidion gwag yr arweinydd, ond ymddengys i bawb fod mewn hwyliau da wedi mwynhau diwrnod difyr ar y copaon.
Diolch am gwmni Elen, Aneurin a Dilys ; Janet,Clive, Richard a Sue, Eirwen, Alun Caergybi, Eirlys, Gareth Pritchard, Eryl, Gareth Wyn, Everett, Gareth Huws, Ifan Jones, John Arthur a Dafydd.
Adroddiad gan
Gwyn Williams
Lluniau gan Gwyn Williams ar FLICKR