Pen y Gogarth 10 Chwefror
Cyngreawdwr Fynydd neu Pen y Gogarth yn y Gymraeg; Horma Heva yn iaith y Gogledd; Orme yn y Saesneg.
Pa bynnag enw rydych yn ddewis does dim dwywaith mai hwn yw’r penrhyn calchfaen mwyaf trawiadol yn ynysoedd Prydain. Bwriad y daith oedd ymweld â’r mannau mwyaf diddorol ar y penrhyn.
Cychwyn y daith o Ben y Morfa ar hyd llwybr y mynach i gyfeiriad llwyfandir y copa; cyfle i sylwi ar olion Plas yr Esgob. Mae’n debyg mai rhodd oedd hwn i’r Esgob Anian o Fangor gan Edward 1af am iddo fedyddio ei fab. Daeth cyfiawnder dros gan mlynedd yn ddiweddarach pan losgwyd y lle i’r llawr gan Owain Glyndwr!
Seibiant ar ymyl y llwyfandir i edmygu’r olygfa. Castell Deganwy, sef cadarnle Maelgwn Gwynedd, i’w weld yn glir ac yn y pellter Arenig Fawr. Heibio’r palmentydd calchfaen, lle mae llawer o blanhigion difyr yn tyfu mewn holltau yn y graig. Sesiwn tynnu lluniau wrth y meini mawrion, tystiolaeth fod y penrhyn wedi ei orchuddio gan rew ar un cyfnod.
Dringo i’r copa i gael paned. Yn 1826 adeiladwyd gorsaf semaphore gan Awdurdod Porthladd Lerpwl, un o unarddeg ar hyd arfordir y gogledd i drosglwyddo gwybodaeth am y llongau o Gaergybi i Lerpwl. Ymlaen wedyn i weld y gromlech Llety’r Filiast, llawer ohoni wedi dirywio oherwydd y tywydd a’r maen capan wedi ei dorri’n dri. Dipyn llai o ran maint na chromlechi Pen Llyn mae’n debyg!
Y cymal olaf yn ein harwain i gaer Pen Dinas i weld y Graig Siglo neu Grud Sant Tudno. Yn ôl y chwedl, os oedd rhywun yn cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd rhaid iddo neidio ar y graig. Os oedd y graig yn siglo yna roedd yn ddieuog ond os nad oedd y graig yn symud yna roedd y person anffortunus yn cael ei luchio i abergofiant dros y dibyn. Mentrodd dipyn o’r aelodau ar y graig a phawb yn gwneud iddi siglo ond pan ddaeth yn dro John Arthur fe lithrodd oddi arni ac ar ei ben ôl i lwyn o ddrain. Euog dros ben!
Yn ôl i’r man cychwyn drwy erddi Heulfre. Dyluniwyd y gerddi gwreiddiol gan Henry Pochin a aeth ymlaen wedyn i ddylunio Gerddi Bodnant. Ar hyd llwybr y methedig a heibio’r meinciau coffa. Addas iawn i griw dydd Mercher, medda rhywun!
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth draw i’r Creuddyn a chroeso arbennig i Heli ar ei thaith gyntaf ar ddydd Mercher.
Adroddiad gan Arwel
Lluniau gan Haf ar FLICKR