Aran Fawddwy 10 Medi

Ar ddiwrnod braf o ddiwedd haf daeth 11 at ei gilydd ym mhen pellaf Cwm Cywarch, a’r rhai nad oeddent wedi bod yno o’r blaen yn rhyfeddu at gymeriad arbennig y cwm tawel a neilltuedig hwn. Wedi gair o groeso gan ein harweinydd, Tegwyn Jones, ymlaen â ni i wynebu’r esgyniad serth i fyny Cwm y Graig, gyda glannau nant Camddwr, a chael cyfle i groesi’r bont bren newydd. Cafwyd seibiant wedi cyrraedd Bwlch Cosyn i archwilio Lloc y Llwynog, tebyg i gorlan heb fynedfa lle’r arferid gosod ysglyfaeth i ddenu llwynogod a’r rheiny wedyn yn methu dianc o’r lloc. Roedd yn gyfle hefyd i fwynhau’r olygfa o ddyffryn Wnion a Rhobell Fawr a sylwi ar gwmwl o fwg gwyn yn codi o gaeau un o ffermydd Rhyd-y-main –arwydd eu bod wrthi’n chwalu calch. Yna rhaid troi’n golygon a’n camau ar i fyny eto, ond yn llawer mwy graddol erbyn hyn ar hyd y gefnen i’r Aran Fach ac yn fuan wedyn i gopa Aran Fawddwy. Aros yno am ginio haeddiannol ac edmygu’r olygfa dros y creigiau serth at Greiglyn Dyfi yn union oddi tanom. Yna ail-droedio’r un llwybr cyn gwyro i lawr i’r chwith tuag at grib laswelltog a chul y Drws Bach ac ymlaen dros Drysgol cyn troi ar i lawr yn ôl i Gywarch ar hyd y llwybr mawn ar hyd llethrau Hwngwm.

Y cerddwyr oedd Sue a Richard, Eirlys, Gwen a Lisa, Merfyn, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Gareth Wyn ac Eryl gyda llawer o ddiolch i Tegwyn am rannu â ni o’i stôr gyfoethog o hanesion a chwedlau lleol. Diwrnod difyr dros ben!

 

Adroddiad gan Eryl


Lluniau gan Gwyn ar FLICKR CLWB MYNYDDA CYMRU

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

9/26/16 14:59