HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd 13 Ebrill



Roedd yn heulog braf yn Nyffryn Clwyd ar 13 Ebrill a braf hefyd oedd cael cwmni 18 aelod ar daith ar hyd y bryniau.  Y rhai fentrodd ymuno â mi oedd: John Arthur, Clive a Rhiannon, Jane ac Angharad o Benmachno, Llŷr, Margaret a Nia Wyn o Fôn, Eurgain o Lansannan ar ei thaith gyntaf hefo’r Clwb, Gwyn, Anet a John Parry o Ddwyfor, Haf, Rhys Llwyd, Gareth Tilsley a Gwen Aaron o gyffiniau Bangor, Gareth Williams o Wrecsam a Gwen o Ruthun.

Cychwyn o gilfan Plymog ger Llanferres a cherdded i fyny ffordd gul i ymuno hefo Llwybr Clawdd Offa ymhen rhyw filltir.  O fan honno ’mlaen bu Llwybr Clawdd Offa yn gydymaith cyson i ni.  Dringo (yn ddigon serth!!) i ddechrau i gopa Foel Fenlli a chael paned yno wrth edmygu’r golygfeydd eang o’n cwmpas.  Bu dipyn o ddyfalu ar ba rai o fynyddoedd Eryri oedd yn y golwg ond erbyn disgyn i Fwlch Penbarras a dringo wedyn i gopa Moel Famau datgelwyd y cyfan yn yr arwyddluniau ar Dŵr y Jiwbilî.  Cael tamaid o ginio ar ben y tŵr (a adeiladwyd i ddathlu jiwbilî aur George III - neu Siôr Wallgof - yn 1810) a sylwi ar y golygfeydd draw i’r gogledd am lannau Dyfrdwy, Lerpwl a Chilgwri.  Ymlaen wedyn dros Foel Dywyll a Moel Llys-y-coed cyn disgyn eto i’r bwlch a dringo i gopa olaf y diwrnod, sef Moel Arthur.  Diwedd y daith oedd maes parcio Coed Llangwyfan ac, erbyn hynny, roedd pawb yn falch o’i gyrraedd.

Prif atgofion y diwrnod i mi oedd cwmni hawddgar ffrindiau, y bryngaerau hanesyddol sy’n britho’r ardal, tywydd perffaith ar gyfer cerdded a golygfeydd ysblennydd Dyffryn Clwyd a mynyddoedd Eryri.  Diolch i bawb oedd yno am eu rhannu.

Adroddiad gan Dilys

Lluniau gan Haf ac Anet ar FLICKR