HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelwynion 14 Mai



Cyfarfu 12 aelod yn Nolrhedyn ar fore hyfryd arall yn 'Stiniog. Awyr las berfaith, awel ysgafn a'r gog yn canu - be well. Fyny ffordd Stwlan, tros Carreg Blaen Llym a cael panad yn Chwarel Sion Llwyd cyn sgrialu fyny i gopa'r Moelwyn Bach. Golygfeydd godidog oddi yma tros foryd y Ddwyryd a'r Traeth Mawr ac o Aran Fawddwy i'r Wyddfa. Lawr a ni i'r bwlch a dechrau lawr Ffordd yr Iddew Mawr (Nathan Rothchild) cyn troi ar hyd y Llwybr Mul tuag at chwarel Pant Mawr - llwybr hyfryd tawel gyda golygfeydd gwych. Cyrraedd pen yr inclên i Gwm Croesor a cael cinio cyn cychwyn dringo'r grib ogleddol i gopa'r Moelwyn Mawr.Ar ôl cyrraedd y copa, cystadleuaeth cyfri' llynnoedd - beth bynnag 16, os nad mwy! Gadael y copa a lawr i gopa bach y Garn Lwyd ac yna anelu am dyllau enfawr Chwarel Rhosydd cyn dringo i gopa ola'r dydd sef Moel yr Hydd. Panad hamddenol arall yma cyn disgyn yn serth lawr i Chwarel Wrysgan, trwy dynal yr inclen ac yn ol i Ddolrhedyn. Diwrnod da, diolch i bawb.

Y criw oedd: Gwyn (Llanrwst), Richard, Gareth Everett, Sian S, Chris, Hilary, Janet, Eirwen, Alun (Caergybi), Alan (Nantlle), Gwyn Roberts a Myfyr.

Adroddiad gan Myfyr

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR