HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylch Pentrefoelas 14 Rhagfyr

Cafwyd tywydd braf dros ben drwy’r dydd ar gyfer taith ardal Pentrefoelas, felly cawsom fwynhau golygfeydd trawiadol ac eang, yn ymestyn o gopaon Eryri yn y gorllewin i’r Berwyn a Bryniau Clwyd yn y dwyrain.

Dechreuodd y daith drwy gerdded i’r de o’r A5 gan ddilyn llwybr dros y bryn i fuarth Plas Iolyn, cartref un o deuluoedd pwysicaf gogledd Cymru ddyddiau fu. (Ar gais amryw, dyma beth o hanes y teulu). Arweiniodd Rhys ap Maredudd, neu Rhys Fawr, fintai o filwyr i ymuno â Harri Tudur ar ei daith i faes Bosworth yn 1485. Honnir mai ef oedd yn cludo baner bersonol Harri yn y frwydr ac mae straeon eraill mai ef a laddodd Richard III ac a osododd ei goron ar ben y brenin newydd.

Sut bynnag, elwodd Rhys o lwyddiant Harri. Daeth ei fab, Robert ap Rhys, yn gaplan yn llys Harri VIII a derbyniodd y teulu diroedd yn Nolgynwal (hen enw ar Ysbyty Ifan) ac ym Mhenllyn.  Roedd ei fab yntau, y Dr Elis Prys, neu’r Doctor Coch – oherwydd y fantell goch a wisgai fel arwydd iddo ennill gradd yn y gyfraith – yn un o’r comisiynwyr a oedd yn gyfrifol am ddiddymu’r mynachlogydd yn y 1530au.  Rhoddodd hynny gyfle pellach i ymgyfoethogi!

Y mwyaf diddorol o’r cyfan oedd y nesaf yn y llinach; Tomos Prys, milwr, môr-leidr a bardd! Lluniodd ddwsinau o gywyddau ac mae llawysgrifau yn ei law ei hun ar gael sy’n adrodd cryn dipyn o’i hanes:

            Bûm yn Fflandras, atgas oedd,
            Yn rhyfela, ar filoedd,
            Ag yn Siermain gain, fel gŵr
            Ar ympryd, gwlad yr Emprwr.

gan ymffrostio
            Curwch dalm ar yr Almaen
            Ceir ysbort yn curo Sbaen.

Treuliodd gryn dipyn o amser yn Llundain, yn ofera a chwarae cardiau a dîs a chollodd arian hefyd wrth ymgyfreitha.  Mae stori mai ef a’i gyfeillion oedd y rhai cyntaf i smocio’n gyhoeddus yn Llundain, yn nhafarn y Pied Bull.

Bu’n fôr-leidr, ynghyd â rhai bonheddwyr eraill o ogledd Cymru megis Pyrs Gruffydd o Blas Penrhyn a John Wyn ap Huw o Blas Bodfel ger Pwllheli, gan ddefnyddio Ynys Enlli fel lloches. Efallai mai ei gywydd mwyaf adnabyddus (ond nid y gorau o bell ffordd o ran crefftwaith) yw’r un “i ddangos yr heldring a fu i ŵr pan oedd ar y môr”, a ysgrifenwyd mewn cyfuniad rhyfedd o Gymraeg a Saesneg.

            Dilynais, diwael ennyd,
            Y dŵr i Sbaen ar draws byd,
            Tybio ond mudo i’r môr
            Y trawswn wrth bod trysor.
            Prynais long, prinheis y wlad
            Am arian i’r cymeriad. (= criw)

Disgrifia’r daith i ymosod ar longau trysor Sbaen:
            Ffarwel England a’r sand sych
            A Sili – ynys haelwych!
            Rowl away wrth reiol wings
            I barlio, tua’r Bwrlings.

            Mwnson, hoist up the mainsail,
            By Mari, I see a sail!
            Gif sias (chase), er a gefais i,
            Out topsail, yw lowt tipsy.
            Shŵt again, broad-side gunner!
            We’ll be braf if we have her.    (un o linellau mawr barddoniaeth Gymraeg!)

Ond siom sy’n ei aros a phenderfyna mai gwell bugeilio defaid ar foelydd ei gartref na dal i hwylio’r moroedd:
            Ac wrth ymladd, gwarth amlwg
            We lost our men ar lestr â mwg.

Am a gefais o’m gofal,
            Yn y daith yma o dâl
            Dowt yma y daw Tomas
            Adre’n siwr o’r gloywddwr glas:
            Before I will pill (=pillage) or part
            Buy a ship, I’ll be a shephart.

Bu farw yn 1634 ac yntau oddeutu 70 mlwydd oed a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ysbyty Ifan. Bu’n briod ddwywaith a chafodd o leiaf 13 o blant; collodd ddau fab o’i briodas gyntaf yn ifanc iawn a chanodd gywydd teimladwy a thyner i gofio amdanynt. Rhannwyd y stad rhwng ei feibion o’r ail briodas a ni fu i’r teulu yr un pwysigrwydd wedyn, er bod un gangen yn dal i arddel yr enw, teulu Price o stad o Rhiwlas ym Mhenllyn.

Canodd gywydd cofiadwy i fynegi ei hiraeth o golli ei gyfaill Pyrs Gruffydd hefyd (dydi Wicipedia ddim yn gywir yn dweud nad oes gwerth llenyddol i’w waith!):
           
            Y mae annwyd i’m heinioes,
            Y mae ia yn blwm i’m hoes;
            Y mae anadl trwm ynof,
            Y mae cur nid â o’m cof;
            A min dur nid â mwy’n des.
            Ba anaf yw byw ennyd?
            Ba waeth i’r beilch beth yw’r byd?
            Y rhai heddyw’n fyw a fôn’,
            Yory ceir yn feirwon,      
            A rhai hyna’ hwya’u hoes,
            Trennydd y tyr eu heinioes.

Cerdded ymlaen wedyn o fewn golwg i’r Gilar, un arall o hen blasdai’r fro, at Gapel Bethel a chroesi Afon Merddwr a’r A5 yna ar draws y cae at Cefngarw a ffordd gefn heibio Cors Nug i’r ffordd fawr dros Fynydd Hiaethog o Bentrefoelas am Ddinbych. Egwyl yno am ginio ger Hafoty Hafod-dre a chael stori gan Dewi (brodor o’r ardal wrth gwrs) am ferch y ffarm a lofruddiwyd ganol y 19eg ganrif gan was un o’r ffermydd cyfagos wedi iddi wrthod bod yn gariad iddo. Claddwyd hi ym Mynwent Pentrefoelas gydag englyn ar y garreg yn diweddu gyda’r llinell:
           
Dyn a fu yn dwyn fy oes.

Mwynhawyd cerdded yn yr haul braf wedyn ar hyd waelodion Mynydd Hiraethog a dilyn llwybr beth o’r ffordd tuag at Lyn Alwen (nid y gronfa o’r un enw) cyn troi ar i lawr yn ôl i’r pentref heibio i olion sylweddol tomen hen gastell y Foel Las, na wyddys lawer o’i hanes ond iddo efallai gael ei godi gan Owain Gwynedd yn y 12fed ganrif, ond castell Cymreig yn sicr ac nid un Normanaidd. Gerllaw mae Carreg Llywelyn, neu atgynhyrchiad ohoni gan fod y gwreiddiol wedi ei chyflwyno’r rhodd i’r Amgueddfa Genedlaethol gan y Cyrnol Wynne-Finch, perchennog Stad y Foelas, yn 1935.  Mae’r geiriau Lladin arni yn nodi iddi gael ei chodi ar y 30ain o Dachwedd (heb roi blwyddyn) trwy nerth braich Llywelyn ac efallai ei bod yn cydnabod rhodd o diroedd i abaty Aberconwy gan Lywelyn Fawr.

Cyrhaeddod yn ôl mewn pryd i gael paned yn y caffi yn y Tŷ Siocled a rhai yn manteisio ar y cyfle i brynu anrhegion Nadolig – neu i sbwylio nhw eu hunain?

Roedd 24 ar y daith: Dewi, Gareth a Rhodri o gyffiniau Bangor, Margaret, Nia, Llŷr a Huw Myrddin o Fôn, Dafydd o Ddinbych a Gwilym Jackson, Elen Huws, Iolo ap Gwynn, Dei a Cheryl, Anet, Gwenan a John Parry, Iona o Bandy Tudur a Gaynor ac Irene (wedi ymuno â ni am y diwrnod) a Jane, Olwen, Buddug, Angharad ac Eryl.   

Adroddiad gan yr Arweinydd, Eryl Owain.

Lluniau gan Iolo ap Gwynn ar FLICKR