HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Maesglase 16 Ebrill



Sawl gwaith bu rhywun yn gwibio lawr o Fwlch yr Oerddrws am Ddinas Mawddwy yn y car, a rhyfeddu ar y llethrau gwyrddion serth ar y dde?  Dyma Grib Maesglase, a da oedd cael criw o unarddeg heddiw i’w cherdded ar ei hyd o ben ucha’r bwlch i Dinas.
                      
Cychwynwyd trwy ddringo at chwarel Gwanas a heibio copa cyntaf y dydd,  sef Cribin Fawr, cyn disgyn a chodi’n serth i ben Waun-oer. Gyda’r tywydd yn  heulog a chlir, cafwyd golygfeydd trawiadol yma o Gwm Hafod Oer a Mynydd Moel,  gyda Chraig Amarch (uwchben Llyn Cau) yn pipian dros ei ysgwydd.  Roedd rhaid dychwelyd yr un ffordd yn ôl at y Gribin, yna troi tua’r de a dilyn y grib wrth iddi ddolenu nôl a mlaen dros Graig Portas ac am Graig Maesglase, gyda’i dau gopa. Maen Du yw’r uchaf ar y map, ond gan fod mesuriadau diweddar wedi dangos fod Craig Cwm-erch ychydig uwch, gwnaed yn siwr ein bod yn mynd dros y hon hefyd!

Buom yn cerdded wedyn ar hyd ymyl y dibyn serth uwchben Cwm Maesglase nes cyrraedd y rhaeadr dramatig ble mae Nant Maesglase yn syrthio bron i 200m i lawr y cwm. Dyma enghraifft wych o grognant, gyda’r afon yn llifo’n hamddenol trwy gwm bychan ar y mynydd cyn syrthio’n fertigol wrth gyrraedd y man ble rygnodd y rhewlif heibio yn Oes yr Iâ. Roedd Leusa wedi gweld olion hebog tramor yma ar ymweliad blaenorol – a wele, ar ben y graig uwch y rhaeadr, sypynnau o blu euraidd a swn yr hen hebog yn y dyffryn odditanom. Bu cryn ddyfalu pa aderyn fu’n brae – pôs i Galwad Cynnar efallai?

Edrychai Cwm Maesglase yn dlws. Buom yn siarad am Huw Jones, yr emynydd, a ysgrifennodd yr emyn ‘O tyn y gorchudd’; am lyfr Angharad Price, o’r un enw, a hanes rhyfeddol teulu Ty’n y Braich a’r brodyr dall; hefyd am fwynglawdd y ‘Red Dragon Gold Mine’ ym mhen ucha’r cwm. Croesi Moel Dinas wedyn gan gadw ar yr un uchder cyn i’r llwybr ddiflannu i’r coed. Roedd rhywbeth yn ddymunol am gael cysgod a gwyrddni’r goedwig ar ddiwedd y daith, wedi bod allan ar yr unigeddau mawnog trwy’r dydd.

Roedd yn braf cael cwmni tri aelod newydd, sef Alan, Martin a Gill, hefyd Huw, yn ailymuno, Sian (Shakespear), Leusa, Eryl ac Angharad, Rhiannon (James) a Mari. 

Adroddiad gan Elen


Lluniau gan Elen ar FLICKR