Cwm Croesor 16 Tachwedd

Wrth baratoi ar gyfer ein pennod i Copaon Cymru cawsom ein swyno gyda phrydferthwch a chyfoeth hanes yr ardal hon.  Buom yma sawl tro ers hynny i grwydro mwy ar hyd y llwybrau is – a dyma oedd tarddiad y gylchdaith hon.

Roeddem yn falch fod y glaw wedi cadw draw a’n bod wedi cael gwerthfawrogi lliwiau’r hydref cyn iddynt ddiflannu am dymor arall.  Cychwynnodd 24 ohonom ar hyd y lôn o dafarn Brondanw a heibio’r Plas lle trigai Clough - am 70 o flynyddoedd a’i deulu.  Yma, mae tai gwyrddlas Stad Brondanw yn stamp nodweddiadol i’r ardal gyfan.

Arhosom ger Pont Carreg-hylldrem (neu Alltrem) i dynnu sylw at y ffaith fod y môr yn y gorffennol pell yn cyrraedd hyd at y man yma.  Hen enw ar y graig oedd Allt Traeth a darganfuwyd cregyn maharen yma’n dyddio i 6,000 o flynyddoedd yn ôl.  Disgrifiodd George Burrow yr ardal yma yn ei lyfr Wild Wales gan gyfeirio at y graig ryfeddol yma.  Dywedodd Alun Huws wrth y grŵp ei fod wedi bod yn dringo’r graig dro’n ôl a darganfod nyth tylluan arni, gyda 10 wy yn y nyth!

Ymlaen drwy’r goedwig i’r gogledd o afon Croesor gan godi maes o law i dir agored creigiog yn edrych i fyny ar y Cnicht a’r Moelwynion.  Cawsom gyfle yma i gael paned ac edrych ar yr olygfa o’n cwmpas.  Wrth ddisgyn i lawr i Groesor, cerddasom heibio Cae Glas, un o dai canol oesol yr ardal sy’n ddyddiedig, yn ôl y dull dendrocronoleg, i 1547.  Mae’n enghraifft arwyddocaol o dŷ cynllun Eryri cynnar.

Roedd yn rhaid aros yng Nghroesor wrth gwrs i dalu teyrnged i’r enwog Bob Owen oedd yn byw yn Ael y Bryn, drws nesaf i’r capel.  Cyd-ddigwyddiad braf oedd bod Alun Huws yn ddisgynnydd iddo.  Rhaid hefyd oedd picio draw i weld Y Bryn, cartref Moses Kellow, rheolwr dyfeisgar chwarel Croesor.  Cawsom ei hanes wedi’i grisialu’n daclus gan John Parry.  Diolch i Haf, roedd cyfle i brynu hunangofiant Moses Kellow ganddi ar ddiwedd y daith.  Llyfr gwerth ei ddarllen.

Wedi cinio, roedd rhaid dringo dipyn ar hyd y lôn i Dan y Bwlch.  Dyma gyrraedd man uchaf y daith lle’r oedd golygfeydd o aber y Ddwyryd a’r mynyddoedd o gwmpas.  Yna torri ar draws i fferm Tyddyn Gwyn ac i lawr heibio Moel Dinas a draw at fferm Y Wern, lle’r oedd Bob Owen yn gweini yn ei ddyddiau cynnar ac wedi cwrdd â’i wraig Nel - merch o Gaeathro.

Rhaid oedd brysio dipyn wedyn i ddal y Ring cyn iddi gau am 3.00!  Cyfle i gael sgwrs dros baned a sgons cartref neu beint a dangos gwerthfawrogiad i’r tafarnwr newydd am adael i ni barcio ein cerbydau yno drwy’r dydd.

Adroddiad gan Clive a Rhiannon

Lluniau gan Anet a Iolo ar FLICKR CLWB MYNYDDA CYMRU

 

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

11/21/16 13:34