HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader Idris 17 Ionawr

O’r diwedd, eira! Doedd ‘na ddim ym maes parcio Ty Nant, ond wedi cerdded ar hyd y ffordd at Westy’r Gwernan, a chymryd y llwybr i fyny am Lyn Gafr, roedd y byd yn wyn. Cyrrhaeddsom Lyn y Gader, a stopio am baned, gan gysgodi allan o’r gwynt main oedd yn chwythu yma. Dilyn cyfarwyddiadau Myfyr wedyn i ddringo Llwybr Madyn, oedd dipyn haws ar haen go dda o eira nac ar draws ei gerrig rhydd. Roeddem yn y niwl erbyn hyn, ac angen y ceibiau rhew wrth groesi’r llethr serth o dan y grib. Roedd sawl person ar y copa, a dyma ddilyn awgrymiad (doeth, fe brofwyd!) Gareth Everett i fynd ar ein pennau i mewn i’r cwt i fagsio sêt sych i fwyta cinio. Erbyn dod allan eto, roedd y cwmwl wedi codi, a golygfeydd gwych i lawr am Ddyffryn Mawddach a thraw am y Rhinogydd a’r ddwy Aran. I lawr dros y Cyfrwy a llwybr Pilyn Pwn, a phaned/peint yng nghlydrwydd y Ship yn Nolgellau cyn mynd adref. Diwrnod da iawn!

Diolch i Myfyr am ddod i’n cyfarfod a’n rhoi ar ben ffordd. Gobeithio fod ei gefn y well.

Maldwyn, Manon, Elan, Prys, Sioned (Huws), Gareth Everett ac Elen.

Adroddiad gan Elen.

Lluniau gan Gareth a Myfyr ar FLICKR