Y Garn 17 Awst

Daeth 17 o aelodau ac un ci at ei gilydd yn y Ganllwyd ar  ddiwrnod braf o haf i gerdded i fyny'r Garn, mynydd 629 medr/2064 troedfedd yn  y Rhinogydd - John Arthur, Gwyn Llanrwst, Emyr, Rhian, Gwenan, Gwil, Alun, John  Parry, Anet, Gwyn Chwilog, Dilys, Aneurin, Haf, Raymond, Myfyr, Susan, Richard  (a Nansi'r pwdl).
        
        Aeth y daith heibio hen weithfeydd aur Berthlwyd a Chefn  Coch, ac roeddem yn ffodus i gael Myfyr gyda ni i ddehongli adfeilion yr  adeiladau, cyn dringo'r glaswellt serth ar ochr y mynydd.
        Wedi cyrraedd wal y mynydd, cawsom seibiant am baned cyn  mynd am y copa.
        
        Cyn dychwelyd i'r ceir, aethom i weld y Rhaeadr Ddu ar yr  afon Gamlan, lle mae geiriau o gerdd Thomas Gray wedi eu hysgrifennu ar lechen  mewn Lladin a Saesneg.
        
        Adroddiad gan 
      Raymond Griffiths
        Lluniau gan Aneurin a Raymond ar FLICKR
