HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Beicio Hiraethog a Bro Aled 17 Medi

 

Cafwyd diwrnod sych a digon di-wynt ar gyfer taith beiciau ffordd a oedd yn cychwyn ac yn gorffen ym Mhentrefoelas.  Roedd cymal cynta’r daith dros Fynydd Hiraethog, gan droi oddi ar y briffordd am Ddinbych i fynd heibio Llyn Aled ac i lawr yn serth i Lansannan. Oddi yno dilynwyd ffyrdd bach tawel ar hyd glannau afon Aled, trwy Fryn Rhyd-yr-arian hyd at Bont y Gwyddel.  Wedi esgyniad byr ond serth roedd hi ar i lawr wedyn i Lanfair Talhaearn a chinio yn yr haul ym muarth y Llew Du. Roedd tipyn o waith dringo – graddol yn hytrach na serth, ar y cyfan – wedyn trwy Betws-yn-Rhos ac ymlaen i Fryn-y-maen i ymuno â’r ffordd uchaf o Fae Colwyn am Lanrwst.  Ond nid oedd raid disgyn tua’r dref honno gan gadw’n hytrach at y tir uchel, gan fwynhau golygfeydd gwych o Eryri, trwy bentref Nebo yn ôl i’r man cychwyn erbyn tua 4.00 y prynhawn wedi taith ddymunol dros ben o 46 milltir.


Roedd pedwar gweddol leol ar y daith sef Gareth ’R ynys, Prys, Raymond ac Eryl a thri wedi teithio o Arfon – Morfudd, Hefin a Kevin.

Adroddiad gan Eryl