Foel Goch 17 Rhagfyr
Daeth 11 ynghyd ar fore heulog, wythnos cyn y Nadolig – gyda’r nod efallai i losgi peth ynni a chyfiawnhau cael tri neu bedwar pwdin dolig!
O’r chwith i’r dde yn y llun tan gopa’r Garn: Hilary, Mari, Chris, Gareth, Sioned, Gareth, Elen, Edward, Sian a Dafydd.
Cychwyn o gaffi Ogwen [dau wedi sleifio a bachu paned o’r caffi cyn cychwyn!] a drigno i gyfeiriad Cwm Clyd cyn troi tua’r gogledd a dilyn llwybr main sy’n cadw at gyfuchlin 500m drwy Gwm Cywion, Cwm Coch ac heibio trwyn Yr Esgair i Gwm Bual. Paned wrth y nant yno cyn dringo’n serth i fyny’r ysgwydd tua Bwlch Brecan gyda swn tri neu bedwar o gwn hela yn poeni’r defaid ar lechweddau Mynydd Perfedd uwch ei penau.
Er fod yr haul yn tywynnu arnom ar gopa’r Foel Goch roedd y gwynt yn rhynllyd, felly i lawr a ni am y bwlch a mwynhau cinio yng nghysgod craig uwchben Cwm Cywion. Ymlaen wedyn am gopa’r Garn a phenderfynu peidio a mynd ymlaen am y Glyder Fawr. Dychwelyd i lawr y gefnen heibio Cwm Clyd ac yn ol i Ogwen.
Adroddiad gan Raymond Wheldon-Roberts
Lluniau gan Raymond Wheldon-Roberts ar Fflickr