HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ynys Gifftan a’r Cyffiniau 18 Mai

Braf oedd croesawu 20 aelod o griw dydd Mercher CMC a chyfeillion i Ardudwy ar fore braf o Fai. O’r llecyn parcio ar lan aber y Ddwyryd, lle’r oeddan ni’n gallu gweld Ynys Gifftan ar draws y tywod a niwl a chymylau’n cuddio Eryri a'r Moelwynion, cychwynnwyd cerdded tua’r gorllewin a’r môr ar hyd glan yr aber. Cafwyd cipolwg ar y ty mawr Môr Edrin, cartref yr awdur Richard Hughes, a ysgrifennodd nofel boblogaidd o’r enw ‘High Wind in Jamaica’ yn ogystal â champweithiau eraill.

Ymhellach ymlaen cawsom oedi wrth Glogwyn Melyn a gweld yr olygfa hyfryd oddi yno ar draws yr aber am Bortmeirion. O’r fan hon aethon ni i fyny i gopa’r Ynys ei hun, sef y fwyaf o amryw o ‘ynysoedd’ a saif ar Forfa Harlech. Yn anffodus, newydd i ni adael cysgod Clogwyn Melyn, daeth coblyn o gawod oer a throm nes roedd pawb yn ymbalfalu am eu dillad glaw rhag gwlychu’n wlyb doman. Ond, cyn bo hir roedd yr haul yn disgleirio eto a phawb yn cael cyfle i sychu. Dilynwyd Llwybr yr Arfordir tua’r gorllewin o gwmpas troed yr Ynys, heibio’r Warin, fferm Glan y Môr, a Thanforhesgen, cyn anelu am fferm Ty Cerrig. Ar ôl dod o hyd i’r llwybr iawn, aethon ni heibio Cefn Gwyn a dilyn rhan o Lwybr yr Arfordir eto nes cyrraedd Eglwys hynafol Llanfihangel-y-traethau, lle gwelwyd beddau Mari’r Fantell Wen (Mary Evans), Arglwydd Harlech, a Richard Hughes y nofelydd, ymysg eraill.

Erbyn hyn roedd yn haul braf, ac ar ôl i bawb gael cyfle i fynd i mewn i’r eglwys cawsom orffen ein cinio yn y fynwent dawel a distaw hon.

Ar ôl mynd yn ôl i bentref yr Ynys, pasiwyd Ty Gwyn y Gamlas lle’r adeiladwyd llongau ar un pryd.  Yn nhalcen yr adeilad nodwyd y pedwar drws uwchlaw’r ffos ddofn a gysylltai’r lle â’r môr - pwrpas y rhain oedd ar gyfer llwytho’r cychod is law. O’r fan hon dilynwyd y clawdd llanw i Dalsarnau cyn troi tua’r aber a cherdded ar draws y glastraeth ac yna thywod yr aber er mwyn cyrraedd Ynys Gifftan ar y trai. Cafwyd cyfle i weld hen ffermdy’r ynys cyn i Anwen roi dipyn o hanes y bobl fu’n byw yno. Ar ôl cerdded o amgylch yr ynys - a neidio ambell i ffos ddofn - cyrhaeddodd pawb ail gopa'r diwrnod, cyn anelu tua’r de a chroesi’r traeth eang o dywod, a gorfod tynnu’n sgidia (rhai ohonon ni o leiaf) er mwyn croesi un afon reit ddofn i gyrraedd y ceir yn ôl.

Diwrnod bach braf a difyr iawn – diolch i bawb am ddod.

Adroddiad gan Haf

Diolch yn fawr iawn i Geraint Percy am yr atodiad isod i hanes y daith:
 “Am luniau da!
Roedd rhywun yn holi ynghylch yr enw Môr Edrin - ac 'edrin' yn benodol. Edrychais yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a dyma'r ystyron:
edrin eg + a - atsain, twrw, trwst; atseiniol, croch, swniog, trystfawr, tyrfus
edrinaf  edrin: atseinio, diasbedain, to resound, reverberate
Digwydd 'edrin' yn y 14eg ganrif - Llyfr Coch. Enw da ar y ty, ynte?

Enwau plant Richard a Frances Hughes: Robert Elyston-Glodrydd ganwyd1932; Penelope g 1934; Lleki Susannah g 1936; Catherine Phylleda g 1940; Owain Gardner Collinwood g 1943; a thad Richard Hughes - Arthur. Un o Jamaica oedd ei fam.

Rhyw bytia bach diddorol fel yna.  Tybed fyddai gan rywun arall ddiddordeb?

Diolch hefyd i Rhys Llwyd ac Anet am eu hatodiadau difyr i'r wybodaeth am y daith:
Gan Rhys:
Dyma bwt bach i'w ychwanegu rhag ofn y bydd hwn o ddiddordeb i rhywun arall heblaw fy nheulu. Yn y pamffled oedd yn Eglwys Llanfihangel-y-traethau, ac ar y dudalen olaf, mi sylwais ar y frawddeg yma – “Credir i’r Parchedig William Jones, Ty Fry, foddi, ynghyd â’i geffyl, wrth groesi’r Traeth Bach ar ei ffordd i gynnal gwasanaeth yn 1769.” Mewn Beibl yn fy nghartref mae fy hen hen daid, John Morgans, o’r Lasynys Fach, yn nodi fod ei dad, John Morgans, oedd yn fab i Morgan Jones, Borthwen Fawr, wedi priodi Ellen (neu Elin) Jones (bedyddiwyd Mai 25, 1762) a oedd yn ferch i’r “Rev. William Jones, Ty Fry. Tybed ai’r un William Jones oedd hwn?
[Rhys, dwi'n credu fod yr wybodaeth yn narlith Bob Hughes (gweler yr atodiad) o bosib yn ateb dy gwestiwn di parthed y Parch William Jones.]
 
Gan Anet:
Mae Owain, mab Richard Hughes, wedi sgwennu hanes ei blentyndod yn y 40egau a'r 50egau ym Môr Edrin (ac mewn ysgolion preswyl). Cryn dipyn am gysylltiadau diddorol ei rieni.
'Everything I Have Always Forgotten' ydy teitl y llyfr ac mae'n ddarllen difyr.

Hefyd,gan Haf:
Cofiais fod gen i gopi ar y cyfrifiadur yma o ddarlith Bob Hughes (mab arall i Richard Hughes, y nofelydd) i Gymdeithas Hanes Meirionnydd yn ôl yn 2008, felly dyma gopi ohoni er gwybodaeth.


Lluniau gan Haf ac Eirwen ar FLICKR