HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Mawr 18 Medi

Wyth ohonnom mentrodd allan ar fore Sul digon llwyd a gwyntog. Gwen, Haf, Adam, Gareth, Ifan, Andrew, Iolo, Blodwen Jones a minnau. Cerdded trwy'r coed cyn codi am Foel Rudd a'r cymylau. Dilyn y bedol i gopa'r mynydd Mawr. Dyma'r cymylau yn clirio a'r haul yn gwenu wrth i ni gael ein brechdanau a dyna sut y bu am weddill y prynhawn. Troedio tuag at Craig Cwm Bychan i fwynhau'r olygfa, gyda sawl un yn son nad oeddent erioed wedi trafferthu mentro i'r copa bach hawn. Nofio trwy'r grug a'r llus wrth ddilyn hynt nant fechan o'r cyfrwy rhwng y Mynydd Mawr a Chraig Cwm Bychan i lawr am Gwm Planwydd. Cafwyd hyd i olion yr awyren rhyfel 'Mosquito - W4088' a chwalodd ar lethrau'r Mynydd Mawr ar nos Fercher Tachwedd y 1af 1944, gan ladd y Peilot o Ffrancwr a'r llywiwr o wlad Belg. Wedi dilyn yr Afon Goch o dan Gastell Cidwm cyrraedd glan Llyn Cwellyn. Cerdded yn ol trwy'r coed a chyrraedd y ceir cyn y glaw.

Diolch i bawb am ei cwmni difyr yn ystod y diwrnod.

Adroddiad gan Dylan

Lluniau gan Dylan ar FLICKR