Cader/Cadair Idris 22 Hydref
Pedwararddeg wedi ffonio ond dim ond deuddeg ym maes parcio Minffordd. Dwy ar "sight-seeing tour" yn Nyffryn Mawddach. Pam ddim, mi 'roedd yn fore braf! Symud ceir i ben y bwlch a'r ddwy "tourist" yn ymuno a ni. Dechrau dringo yn serth a'r haul yn diflannu i'r cymylau trwchus ac erbyn cyrraedd y grib a chopa'r Gau Graig, roedd y niwl wedi cau amdanom. Ond, cawsom sawl cip ar Fwgan Brocken (Brocken Spectre?). Panad sydyn ac ymlaen ar hyd y grib a dringo'n serth eto i gopa Mynydd Moel - dim fiw! Tra'n dilyn y brif grib tua Pen y Gadair, y cymylau'n dechrau gwasgaru a'r haul yn ail ymddangos, felly, canfod man gweddol gysgodol ar Fwlch Melyn i gael cinio. Dilyn y clogwyni wedyn gyda golygfeydd godidog tua'r gogledd nes cyrraedd y torfeydd ar Ben y Gadair. Pwyllgor brys yn penderfynu mynd ymlaen i'r Cyfrwy - (y gora o'r cwbwl! MT) cyn troi'n ol i lawr i Fwlch Cau a dringo i'n copa ola' o'r dydd sef Craig Cau. Ychydig i lawr o'r copa, cael panad arall a syllu lawr Ffos Twr Maen (Great Gully) i ddyfnderoedd Llyn Cau. Dilyn y grib ddeheuol wedyn i Gwm Cau, lawr trwy'r coed ac yn ol i faes parcio Minffordd lle roedd Alan Hughes a Mair yn aros amdanom - braf iawn dy weld Alan. Llwytho'r ceir ac yn ol i ben y bwlch.
Diolch i Alan am drefnu, gan ddymuno gwellhad llwyr a buan iddo. Diwrnod da, 5 copa, dim glaw a criw hwyliog sef: Aneurin, Dilys, Alun (Capel Bangor), Alun (Caergybi), Eirlys, Anet, Gwen, Hilary, Elen, Morfudd, Sioned, Cemlyn , Gwilym a minnau, Myfyr(sub)
o.n. Geshwch pwy fu ym Mhenmaenpŵl !!
Adroddiad gan Myfyr Tomos
Lluniau gan Aneurin Phillips, Sioned Jones a Myfyr Tomos ar FLICKR