HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diffwys, Llethr a Moelfre 24 Medi

Oherwydd fod Iolyn newydd gael llawdriniaetrh ar ei benglin bu’n rhaid i’w ddirpwy gymryd drosodd fel arweinydd am y dydd.

Er fod rhagolygon y tywydd yn darogan gwyntodd eithaf cryf a glaw at ddiwedd y pnawn, mentrodd chwech arall fynd ar y daith, sef, Gwen Evans (Chwilog), Arwel, Eryl, Gwyn (Llanrwst),Gareth Huws ac Ifan Jones a’r dirprwy Eirlys .

Dechreuwyd y daith o Dyddyn Llidiart, uwchlaw Llanbedr (cartref Eirlys ac Iolyn) gan anelu i fyny am hen ffordd y porthmyn a’r bont hynafol sy’n croesi afon Ysgethin, gan basio’r gromlech islaw Bronyfoel Uchaf. Dilyn ffordd y porthmyn wedyn i fyny i’r bwlch gan edrych ar olygfeydd gwych o’r Fawddach. Penderfynwyd parhau â’r daith a drefnwyd gan nad oedd y gwynt yn rhy gryf, ond braf oedd cael cysgod y wal ar hyd y ffordd i gopa Diffwys. Dringo dros y wal yno i gael mwynhau golygfeydd godidog o Gwm Mynach a thu hwnt. Dringo dros y gamfa yn ôl i’r ochr orllewinol i gael cysgod rhag y gwynt, cyn disgyn rhywfaint cyn cael cinio. Ymlaen wedyn i ddilyn y wal ar ar hyd y grib rhwng Diffwys a Llethr ac yno yn y bwlch  y cafwyd y gwynt cryfaf. Ond wrth esgyn oddi yno, penderfynwyd mynd i gopa Llethr gan nad oedd y gwynt cyn gryfed erbyn hyn ac ‘roedd ganddom y wal fawr gerrig yn gysgod inni ar hyd y ffordd i’r copa. Yn ôl i lawr wedyn a throi gyda’r wal arall i’r dde i lawr Moelyblithgwm.

Y bwriad oedd cerdded yn ôl dros y Moelfre, ond penderynwyd na fyddai cysgod ar ben y mynydd hwn, ac felly dilynwyd y llwybr sy’n rhedeg o dan y Moelfre am Gwm Nantcol. Daeth yr haul allan a gwelwyd Cwm Nantcol yn ei holl ogoniant. Ond wrth ddilyn y ffordd am yr Allt Fawr gellid gweld cymylau duon yn agosau o’r môr. Wedi dod i lawr o’r Allt Fawr a phasio Ffynnon Enddwyn, troi i lawr am y ffordd drol sy’n arwain oddi yno am dir Tyddyn Llidiart. Cyrhaeddodd pawb yn ôl cyn i’r glaw gyrraedd.

Bydd yn rhaid trefnu taith eto i ben y Moelfre, gan fod rhai heb gael y fraint o fwynhau bod ar ei gopa eto.     

Adroddiad gan Eirlys

Lluniau gan Arwel ac Eirlys ar FLICKR