HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau 25 Mehefin


Daeth un deg chwech ohonom at ein gilydd ar fore digon oer o gysidro’r  dyddiad i’r maes parcio ger Llyn Ogwen.  Ar ôl trafod Ewrop a thynnu coes ac ati fe gychwynom ar y daith i fyny draws gwlad ar hyd  y llwybr am Lyn Bochlwyd ac yna am Fwlch Tryfan.  Pum munud bach yno cyn troedio mlaen am Lyn Caseg Fraith ac yna fyny am y Glyderau mewn niwl trwchus.

Cinio wedyn rhwng Castell y Gwynt a Glyder fawr a thynnu mwy o luniau cyn mynd lawr am Lyn y Cŵn. Fe aeth dau i lawr heibio’r Twll Du yn y fan yma (Garri Bryn a Steve), ond aeth pawb arall ymlaen am y Garn gyda’r  tywydd yn dirywio a phawb yn cythru am eu dillad tywydd gwlyb.

Glaw oedd hi wedyn o’r Garn am Foel Goch ac i lawr i Gwn Bual ac ar hyd hen lwybr y pysgotwyr, heibio Carreg y Gath yn ôl i Lyn Idwal ac i lawr i’r car.

Diolch i bawb am eu cwmni a’u sgyrsiau diddorol ac i Dafydd Legal am ein harwain mor broffesiynol (a hefyd i Hilary am beidio â gwylltio hefo fi yn y mwd).

Adroddiad Edward Griffiths


Lluniau ganEdward ar FLICKR