Crib Nantlle 27 Awst
Er fod rhagolygon ddechrau’r wythnos yn darogan glaw, erbyn bore Sadwrn roeddent wedi gwella, a’r stormydd am fod i’r dê ac i’r dwyrain, ac felly y bu. Cafodd y 18 a ddaeth ar y daith haul, awel ysgafn ac awyr las – tywydd perffaith i gerdded.
Cychwynwyd o Ryd Ddu i fyny’r dynfa serth am ben Y Garn. Wedi hoe yma i fwynhau y golygfeydd dros Ddyffryn Nantlle ac am y môr, aed ymlaen at y sgrambl ar Mynydd Drws y Coed, gyda rhai yn mentro efo’r ymyl ac eraill yn cadw at lwybr chydig llai cynhyrfus drwy ganol y creigiau. Ymlaen wedyn a thros Grib y Ddysgl ac i gopa Mynydd Tal-y-Mignedd. Cafwyd cinio yma, cyn dilyn y grib, ond cyn disgyn i Fwlch dros Bern aethom i lawr y fraich at yr hen waith copr a phlwm yng Nghwm Dwyfor. Dilyn hen dramwyfa wedyn i ben Cwm Pennant, ac yna cerdded trwy’r chwarel lechi at Fwlch y Ddwy Elor, ac yna nôl at y ceir.
Diwrnod o ddau hanner – un ar hyd y grib yn edrych yn bell dros y wlad, a’r llall yn crwydro trwy hen olion rhyfeddol cyfnod diwydiannol Cymru.
Diolch i Sioned Llew, Morfudd, Arwel, Anet, Gwyn (Chwilog), John (Parry), Rhys Llwyd, Gwen, Anne Till, Alun (Caergybi), Clive, Gwilym Jackson, Dilys ac Aneurin, Gareth (Penmachno), Emyr a Gareth Tilsley am eu cwmni hwyliog, ac yn arbennig i Sioned, Arwel ac Aneurin am dynnu lluniau gwych o’r daith.
Adroddiad gan Elen
Lluniau gan Aneurin, Sioned ag Arwel ar FLICKR