Y Garn a Moel Hebog 28 Mai
Gyda rhagolygon y tywydd yn gaddo cawodydd trymion braf oedd gweld bod yr haul yn tywynnu a'r awyr yn las ym Meddgelert. Ar awgrymiad Clive penderfynwyd dal y bws i Rhyd Ddu i osgoi cyfnewid ceir.
Mae’r llwybr i ben Y Garn braidd yn serth a diflas ond buan death y copa i’r golwg a chafwyd golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Nantlle a Drws y Coed.
Ymlaen â ni wedyn at hyd crib Mynydd Drws y Coed a mwynhau ychydig o sgramblo difyr cyn cyrraedd y copa. Ar Trwm y Ddysgl dyma ni yn gadael y grib a disgyn lawr i Fwlch y Ddwy Elor i gael cinio.
Trwy chwarael y Tywysog wedyn i Fwlch Cwm Trwsgl lle gadawodd Meirion a Gwenan ni i ddilyn y llwybr drwy’r coed yn ôl i Feddgelert. Dringwyd Moel Lem mewn cawod ysgafn o law ac yna ymlaen i Foel yr Ogof. Lisa y brysur ddangos olion gweithgaredd folcanig. Yng Ngwm Meillionen mae llawer o blanhigion diddorol i’w gweld yn cynnwys y pren ddanodd a’r tormaen mwsoglyd. Yma hefyd penderfynodd Clive a Rhinnon ein gadael a dychwelyd i Feddgelert i gael te!
Gwaith called oedd dringo Moel Hebog ar ddiwedd y dydd ond roedd y golygfeydd o’r copa yn fendigedig. I lawr a ni wedyn heibio’r lafa clustog. Wrth giat y ffridd penderfynodd Dylan hefyd ein gadael a rhedeg ar wib yn ôl i’r car.
Roedd llawr y ffridd yn garped glas o glychau’r gog ac ar wal y gorlan roedd Wil Cap Du { clochdar y cerrig } yn brysur ganu.
Er fod nifer y criw wedi hanneru erbyn diwedd y diolch i Clive , Rhiannon, Merion , Iestyn, Gwenan, Dylan, Alun , Lisa ac Eryl am eu cwmni.
Adroddiad gan Arwel Roberts
Lluniau gan Arwel ar FLIKR