Wythnos yr Alban, ger Fort William 13-20 Chwefror

Byncws y Snowgoose Centre ym mhentref Corpach ger Fort William oedd y ganolfan eleni. Fel y llynedd, roedd pawb yn aros dan yr un to ac, er bod y geiriau tin  a sardines yn dod i’r meddwl wrth ddisgrifio’r lle, roedd yn braf gallu mwynhau cwmniaeth pawb o’r criw – 14 ohonom – ac mae aros yn yr un lle yn hwyluso pethau o ran trefnu a chynllunio teithiau. Diolch yn fawr iawn i Maldwyn am wneud y trefniadau unwaith eto.  Cafwyd cwmni Sian (Porthmadog) am y ddau ddiwrnod cyntaf, hithau’n aros yn Hostel Glen Nevis wedi dod i fyny’r wythnos gynt gyda thîm achub Aberglaslyn.

Gwych iawn oedd cael camu allan o’r byncws ar y bore Sul cyntaf a medru gweld Ben Nevis yn disgleirio’n wyn yn yr haul cynnar gydag awyr las (ac ambell gwmwl) yn gefndir. Doedd dim angen llawer o drafod cyn penderfynyu ei throi hi am faes parcio y North Face ger Torlundy a cherdded i gwm Allt a Mhuilinn ac i fyny’r ysgwydd hir am Carn Mor Dearg gan fwynhau golygfeydd da ar draws Coire Leis tuag at glogwyni a hafnau dwyreiniol y Ben dan drwch o eira. Penderfynodd pedwar o’r criw droi yn ôl o gopa Carn Mor Dearg (1220 m) gan anelu i lawr i’r cwm tuag at gwt y CIC – a cherdded heibio’r babell a ddefnyddiwyd gan y ddau ifanc a aeth ar goll. Aeth y gweddill ymlaen i lawr y grib ddeheuol ac yna i fyny’r llechwedd serth (oedd yn serthach nac erioed!) am gopa ucha’r Alban, 1344 m. Erbyn hynny, roeddem mewn cwmwl a’r amgylchiadau aeafol iawn felly i lawr amdani’n ddi-ymdroi tua’r llwybr igam-ogam enwog, y llwybr ‘twristaidd’, a chanfod bod rhes o garneddi taclus wedi eu codi erbyn hyn i nodi’r trywydd cywir. Yn hytrach na dilyn y llwybr hwn i lawr i Glen Nevis, torrwyd ar draws heibio Lochan Meall an t-Suidhe yn ôl am y ceir i gwblhau diwrnod hir a blinedig ond diwrnod gwych o fynydda gaeaf.

Aeth Raymond ar ei ben ei hun tua’r gorllewin i feicio i fyny cwm hir Glen Finnan cyn dringo copaon Sgurr Thuilm a Sgurr nan Coireachan – a beicio fyddai’n mynd â’i fryd weddill yr wythnos hefyd. Manteisiodd eraill ar ambell ddiwrnod rhydd o siopa neu deithio yn y car ond roedd y mwyafrif yn cyd-gerdded gyda’i gilydd bob dydd.

Gyda’r tywydd braf yn parhau, penderfynwyd drannoeth ei throi hi am Glen Nevis a rhoi cynnig ar un arall o deithiau clasurol yr ardal, cylch-daith Steall. Roedd y filltir gyntaf trwy geunant coediog gyda glannau’r Water of Nevis mor hyfryd ag erioed cyn i amryw gael eu profiad (diddorol, gawn ni ddweud!) cyntaf o groesi’r bont weiren enwog. Ond roedd un gŵr o Garmel yn ddigon doeth i groesi rhyd yn ddi-drafferth heb wlychu dim ar ei draed! Rhaid oedd dringo wedyn yn serth iawn, iawn drwy hen goedwig – jyngl fertigol oedd disgrifiad un o’r criw – i gyrraedd y mynydd agored ar ysgwydd ogleddol Sgurr a’ Mhaim.  Roedd y tywydd yn parhau’n wych gyda dwsinau o gopaon, pell ac agos, i’w gweld. Ond roedd y trwch o eira, weithiau’n galed dan draed ond dro arall yn rhoi o dan y pwysau yn arafu peth arnom ac roedd sawl llechwedd eithaf anodd cyn cyrraedd y copa, 1099 m o uchder. Yr her nesaf oedd croesi Crib y Diafol, y Devil’s Ridge, nad yw hanner mor heriol ac a awgryma’r enw, ac ymlaen i gopa Sgurr an Iubhair, 1001 m. Arferid ei gynnwys ymysg y Munros ond bellach mae wedi colli’r statws hwnnw. Penderfynwyd nad oedd digon o amser i orffen y bedol gyfan felly trowyd i lawr yr ysgwydd orllewinol ac ar hyd llwybr da i lawr cwm Coire a Mhusgainn i’r maes parcio yn Achriabhach.

Gwyddem y byddai pris i’w dalu am dywydd braf y deuddydd cynt ac fe’i talwyd dwywaith-deirgwaith drosodd ar y dydd Mawrth. Roedd yn bwrw’n gyson wrth i ni ei throi hi am Glen Nevis unwaith eto a galw heibio Sian – ond hi (am rhyw reswm??) yn penderfynu ei throi hi am adref. Y nod oedd Binnean Beag, 943 m felly un o’r isaf o’r Munros. Aeth rhan gyntaf y daith – cerdded hamddenol am rhyw bedair milltir tuag at ben dwyreiniol Glen Nevis –  yn ddigon hwylus a llwyddwyd i groesi’r afon yn gwbl ddi-drafferth. Roedd yn bwrw’n drymach erbyn hynny a’r glaw’n troi’n genllysg ac eira wrth ddynesu at y copa a gwyntoedd cryfion yn ei gwneud yn anodd sefyll yn llonydd. Troi ar ein sawdl piau hi ac yn ôl at yr afon a oedd erbyn hynny wedi codi’n sylweddol ac yn amhosibl ei chroesi. Penderfynwyd dilyn ei glan ddeheuol di-lwybr i lawr gan anelu am y bont weiren yn Steall ond methwyd â chroesi nant oedd yn llifo (neu gor-lifo) i mewn i’r afon. Felly roedd yn rhaid troi yn ôl i fyny’r afon ymhellach na lle croeswyd y bore cyn cael lle i groesi, er bod y dŵr hyd at ein pengliniau. Wedi’r rhyddhâd o gyrraedd yr ochr draw, siom oedd gorfod gwlychu eto i groesi nant arall ac yna canfod fod y tir gwastad yn Steall wedi gorlifo felly i mewn i’r dŵr amdani am y trydydd tro i gyrraedd y llwybr nôl at y ceir erbyn tua 7.00 y nos – gyda goleuadau pen i’n tywys yn ddiogel uwch rhaeadrau gwyllt y ceunant islaw. Fel y dywedodd rhywun, os mai hwnna oedd y Beag diolch byth na wnaethom ddringo Binnean Mor!
 
Penderfynwyd ar y dydd Mercher ein bod yn haeddu ychydig o faldod. Aeth rhai i siopa ond y rhan fwyaf o’r criw yn cymryd y gondola o ganolfan sgio brysur Aonach Mor hanner ffordd i fyny’r mynydd.  Er bod hwnnw’n mynd â ni i uchder o 600 m, roedd dros hynny o ddringo i gyrraedd copa Aonach Mor (1221 m) mewn tywydd clir a braf. Ymlaen â ni wedyn mewn gwynt cryf a’r niwl yn cau amdanom ar hyd y grib tuag at Aonach Beag, sydd, er gwaethaf yr enw, 13 m yn uwch na’i frawd ‘mawr’.  Dychwelwyd yr un ffordd ac i mewn unwaith eto i’r gondola i lawr nol dros y coed.

Diwrnod cymysglyd o ran y tywydd oedd y darogan ar gyfer dydd Iau felly dewisiwyd un arall o’r Munros is – Sron a Choire Ghairbh (935 m), Trwyn y Cwm Garw. Teithiwyd yn y ceir i ben dwyreiniol Loch Lochy cyn cymryd y llwybr drwy’r goedwig ac i fyny cwm cysgodol Cam Bhealach drwy eira newydd i’r bwlch rhwng Sron a Choire a’i gymydog deheuol, Meall na Tanga (917 m ), sydd hefyd yn Munro, llai na 3 medr dros y trothwy o fod yn 3,000 troedfedd yn yr “hen bres”. Cafwyd llwybr igam-ogam hwylus iawn i fyny’r gefnen a cherdded yr ysgwydd olaf i’r copa ar eira wedi ei sgwrio’n galed, galed gan y gwynt a sŵn crensian y cramponau’n torri ar ddistawrydd y mynydd. Wedi dychwelyd i’r bwlch, penderfynwyd ei throi hi am y ceir gan adael Meall na Tanga am ddiwrnod arall.

Glaw trwm drwy’r dydd oedd y rhagolygon ar gyfer dydd Gwener felly aeth y rhan  fwyaf yn y ceir am borthladd Mallaig ac wedi diwedd bore dioglyd yn mwynhau paned yng nghaffi’r Seamen’s Mission aethpwyd am dro o amgylch y penrhyn gerllaw – rhyw fath o ‘daith ddydd Mercher’ ar ddydd Gwener yn yr Alban! Erbyn hynny roedd y glaw wedi peidio ond wrth deithio’n ôl i Corpach gwelwyd bod llawer o’r eira wedi clirio o rannau is y mynyddoedd felly byddai wedi bod yn wlyb a gwyllt iawn ar y copaon. Dyna’r esgus, beth bynnag, dros ddiwrnod hamddenol!

Y criw oedd Alun (Caergybi), Alun ac Eirwen (Fachwen), Edward (Carmel), Chris a Gary o Fethesda, George, Maldwyn ac Iolo o Arfon, Raymond, Gareth Wyn ac Eryl o Ddyffryn Conwy, Gareth Everett o Glyn Ceiriog a Dewi o Gaerdydd. Cwmni difyr dros ben a phawb yn cyd-dynnu’n rhagorol!

Adroddiag gan Eryl

Lluniau gan Alun a Gareth ar FLICKR CLWB MYNYDDA CYMRU


 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

2/29/16 10:50