HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Teithiau Calan Mai - 1 Mai

Teithiau addas i deuluoedd
Pen y Fan, Cader/Cadair Idris a'r Wyddfa

Trefnwyd ar y cyd â’r Urdd

Diwrnod digon cymylog gafwyd ar 1 Mai ar gyfer teithiau teulu’r clwb, a hynny rhwng cyfnodau o ddyddiau heulog a chlir! Ond, serch hynny, denwyd dros drigain a mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr.

Mae Sian yn arbennig o ddiolchgar i Gwyn a John Arthur am y gefnogaeth ac i Gwydion o’r Urdd am fod yn ‘gyd-beilot’. Diolch hefyd i weddill staff yr Urdd am fenter newydd bur lwyddiannus.



Pen y Fan

Gyda chwmni criw da o blant ac oedolion (ac un ci!) dyma fentro ar gyrraedd copa mynydd uchaf de Pydain - Pen y Fan - gan ei gerdded ar y llwybr mwyaf trawiadol a heriol.

Penderfynwyd ei wneud y tro hwn yn wahanol i'r arfer gan gerdded yn gyntaf o faes parcio Cwm Gwdi, hen safle tanio’r fyddin, ar hyd y lôn nes dod i harddwch Cwm Llwch. Dyma ddechrau ar ddringo 576 m gan fynd heibio llyn hudolus Cwm Llwch, obelisk i stori drist Tommy Jones, y bachgen bach 5 oed aeth ar goll ar y mynydd, ac ymlaen i gopaon Corn Du a Phen y Fan. Cawsom wledd yno o’r golygfeydd godidog a chael ein diddanu gan gôr Cwm Aman oedd wrthi’n cwblhau sialens y Tri Chopa Cymreig.

Gan gymryd pwyll i fynd lawr yr ochr serth ogleddol o'r mynydd dyma ni'n mynd ati i gerdded ar hyd Cefn Cwm Llwch lawr yn nôl i'r man cychwyn wedi 4 awr o gerdded. Diwrnod bendigedig a llongyfarchiadau arbennig i'r plant wnaeth gwblhau’r daith heb yr un gwyn ac i Aled am gario ei ferch fach ar ei gefn yr holl ffordd!

Cader/Cadair Idris

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr

Roedd maes parcio Tŷ Nant ger Islaw’r-dref yn llai prysur na’r disgwyl (y tywydd efallai?) ond buan y llenwodd wrth i 22 o gerddwyr gyrraedd ar gyfer taith y clwb. Roedd amryw’n hen ffyddloniaid o aelodau ond braf iawn oedd cael croesawu nifer nad oeddent wedi bod gyda ni o’r blaen, gyda’r oedran yn amrywio o 13 i fyny! Llwyddodd un cwpwl i fod mewn pryd er iddynt fynd yn gyntaf i faes parcio gwag Minffordd ar ochr ddeheuol y mynydd – a chael eu siomi yno wedi llongyfarch eu hunain am fod y cyntaf i gyrraedd!

Dilyn llwybr Pilyn Pwn i Fwlch Rhiw Gwredydd, hen lwybr ceffyl-a-phwn rhwng Dyffryn Dysynni a Dolgellau, oedd y bwriad a rhai’n dweud eu bod yn ddigon balch fod y cwmwl yn cuddio’r gwaith dringo oedd o’u blaen. Ymlaen o’r bwlch yn llai serth tua’r copa a meddiannu’n llwyr y cwt tra’n mwynhau cinio a sgwrs. Yn anffodus, doedd dim golygfeydd er bod argoelion bod y cwmwl ar godi.

Cychwynwyd yn ôl yr un ffordd am rhyw chwarter awr cyn gwahanu. Aeth y rhan fwyaf am gopa’r Cyfrwy cyn ail-ymuno â’r gweddill ar y prif lwybr ym Mwlch Rhiw Gwredydd. Erbyn hynny roedd y cymylau wedi gwasgaru a’r mwynhâd o’r golygfeydd ysblennydd yn cael ei werthfarwogi’n llawnach, gydag amlinell y mynyddoedd o bobtu’n drawiadol o glir. Pleser pur oedd ymlwybro’n braf lawr y ffriddoedd gwanwynol gan sbecian yn ôl bob yn hyn a hyn ar glogwyni’r Gadair yn disglirio’n yr haul – a chlustiau rhai’n ddigon main i glywed y gog yn ein cyfarch o goedydd Tŷ Nant.

Daeth y criw o ardal eang, yn ymestyn o Chwilog i Lyn Ceiriog ac o Ddyffryn Nantlle i Langrannog! Edward, Fiona, Gareth, Julie, Llinos a Chris, Dwynwen a Gerallt, Ros o Geredigion, Gareth a Gaenor,  Linda a Gwyn, Llinos, Edwina ac Osian o Lanuwchllyn, Menna o Gerrigydrudion, Myfyr, Aled, Buddug, Angharad ac Eryl

Yr Wyddfa



Lluniau gan Sian ar Fflickr

Cychwynodd 19 ohonom o faes parcio Rhyd Ddu yn griw dieithr i’n gilydd ar y cyfan ond daethom oll yn ôl lawr y mynydd yn adnabod ein gilydd yn well ar ôl cael dipyn o hwyl ar y ffordd. Roedd Gwydion o Wasanaeth Awyr Agored yr Urdd a Sian yn falch iawn o groesawu dau deulu sef Sion a Manon ac Einir a Pryderi yn ogystal a chriw bywiog o Ysgol Pentrefoelas gyda phump o ddisgyblion yng ngofal Ann, Carys a Gwenan. Ddaru Gwyn Llanrwst a John Arthur ymuno i gefnogi a roedden nhw’n gwn cefn y gynffon ofalgar a chefnogol iawn a chawsom gwmni Rhian a Tudur ac Emyr yn ogystal. Y plant oedd yn arwain y ffordd i fyny ac wrth ddod n’ol i lawr er bod yr adegau o orwedd ar eu hyd ar y llawr yn codi’n amlach wrth i’r daith fynd rhagddo – aros am yr oedolion wrth gwrs! Cawsom amser difyr yn olrhain enwau’r llynnoedd amrywiol a oedd yn dod i’r golwg wrth i ni ddringo a roedd Sian yn bur sicr iddi glywed Mwyalchen y Mynydd uwch Llyn Coch a Llyn Nadroedd. Byw mewn gobaith y byddai’r Wyddfa yn diosg ei chap niwl unwaith i ni gyrraedd y copa yr oeddem ond arhosodd y cap ymlaen yn styfnig! Wedi dweud hyn roedd nifer o’r cwmni’n falch o’r niwl gan ei fod yn cuddio’r dibyn wrth i ni fynd ar hyd Bwlch Main. Roedd pawb yn ddiolchgar o gyrraedd y caffi a hyd yn oed cael bwrdd gan ei fod yn bur oer i sefyllian tu allan ac wrth gwrs roedd nifer yn falch iawn o gael eu paned o siocled poeth hir-ddisgwyliedig fel gwobr am gyrraedd y copa.

Penderfynom ddychwelyd ar hyd llwybr Cwellyn (Snowdon Ranger) ac wrth fynd lawr cododd y niwl a diflannu’n gyfan gwbl i ddatgelu’r wlad hardd tu hwnt o’n cwmpas. Roedd gymaint o wyrddiau gwahanol i’w gweld ond y llaid a’r siglennau oedd yn denu sylw’r plant wrth i ni groesi nifer o glytiau llawn brwyn a migwyn ar hyd y llethrau is. Rhaid dweud bod dipyn o’r mynydd ar hyd esgidiau a throwsus nifer ohonynt erbyn iddynt gyrraedd y ceir! Y peth pwysig a chofiadwy oedd y wên oedd ar wynebau pawb ar ôl dychwelyd.


Profiad personol bachgen 11 oed:
Taith Gerdded Yr Wyddfa

Dydd Llun dwythaf es i, Wil, Osian, Ifan ac Erin i fyny’r Wyddfa. Aethom ar hyd llwybr Rhyd-ddu. Cawsom y cynnig gan Mrs Jones fel rhan o’n gweithgaredd Siarter Iaith a thema’r Wyddfa. Felly, dydd Llun, Gŵyl y Banc amdani drwy gymorth Yr Urdd a Chlwb Mynydda Cymru.

Sian Shakespear arweinidd ni i fyny a chriw o bobl eraill o Bentir a Sir Fôn ddaeth efo ni. Yn gyntaf, aethom ar lwybr tir sych ar droed yr Wyddfa ac yna mynd fyny a lawr bryniau a chreigiau. Yna cyrhaeddasom dir serth a dechrau dringo.

Dringais o garreg i garreg. Ar 500 metr roeddem yn gallu gweld golygfeydd prydferth o fynyddoedd Eryri i bob cyfeiriad. Y Garn a Chrib Nantlle, Moel Hebog a Chlogwyn Du’r Arddu. Yna cyrhaeddasom ddarn ofnadwy o serth a’r niwl trwchus yn dechrau dod fel caddug. Nawr roeddem ar glogwyn Bwlch Main oedd yn ofnadwy o beryg, roedd yna ddibyn ofnadwy ar ein chwith, lwcus bod y niwl yn rhwystro imi weld lawr a dychryn! Ni welen ni ddim byd yn awr, roedd y niwl mor drwchus ni welech chi ddim byd o’ch cwmpas, dyna pam rydych angen cadw gyda’ch gilydd wrth fynd i fyny.

O’r diwedd, roeddem wedi cyrraedd y copa ond yn anffodus ni welsom ni ddim byd am fod yr Wyddfa yn gwisgo cap o niwl! Yn ffodus, bwyd a thoiled! Aethom i’r caffi, sef Hafod Eryri, i gael rest bach a siocled poeth. Ar ôl yfed llond bol o siocled poeth dechreuon fynd lawr llwybr Snowdon Ranger gan ei fod ychydig yn haws. Cyrhaeddasom y gwaelod ac yna cerdded trwy’r brwyn a’r corsydd. Yna wrth fynd hanner ffordd roeddem wedi disgyn mewn baw a’n esgidiau cerdded yn fudur. Hefyd roeddem wedi cerdded drwy chwarel Rhyd-ddu gyda phentyrrau mawr o lechi. Mae’r chwarel wedi cau ers ugain mlynedd. Mae’n debyg i chwarel Rhiwbach.

Ar ôl 7 awr roeddem wedi cyrraedd yn ôl i’r maes parcio yn Rhyd-ddu. Teimlaf yn falch fy mod wedi cael y siawns i gerdded i fyny’r Wyddfa sydd yn 1085 metr. Roedd yn ddiddorol iawn.
Marek Huws-Tyburski, Blwyddyn 6, Ysgol Pentrefoelas
- o’r Odyn, Mai 2017