Yr Wyddfa 2 Ionawr

        
      Mae  taith i gopa’r Wyddfa i ddathlu’r flwyddyn newydd yn hen draddodiad bellach gan  y clwb. Efallai bod cynnal y daith ar yr ail o’r mis yn rhoi cyfle i mwy o bobl  ddod atynt eu hunain wedi dathlu’r Calan neu efallai mai’r addewid o dywydd da  a ddenodd dros dau ddwsin, bron pawb wedi cerdded i fyny o Ben y Gwryd gan fod  y maes parcio ym Mhen y Pas yn llawn ers ychydig wedi saith!
      
      Wedi  cyrraedd Bwlch y Moch, mentrodd Prys a’r ddau Gareth droi am y Grib Goch a’i  chael yn ddigon di-rew, tra’r aeth y gweddill ymlaen ar hyd llwybr PyG a  chanfod bod angen cryn ofal oherwydd y rhew wrth ddringo o Bant y Lluwchfa i  Fwlch Glas.  Cyrhaeddodd y tri (gŵr  doeth?) y copa fel roedd y gweddill yn cnoi eu brechdanau yn yr heulwen.
        
        Rhannwyd  eto’n ddau grŵp, gyda’r rhan fwyaf yn dychwelyd i Fwlch Glas ac yna nol ar hyd  llwybr y mwynwyr tra’r aeth tri Crib Goch a Manon, Morfudd, Marion, Alun  Caergybi ac Eryl i lawr am Fwlch y Saethau ac yna dros Lliwedd fel bod  cynrychiolaeth, o leiaf, wedi cwblhau’r Bedol.
        
        Gadawodd  Myfyr a Charli’n criw ger Bwlch Glas i gynorthwyo i ofalu am wraig a oedd wedi  syrthio a thorri ei braich. Cludwyd hi i Ysbyty Gwynedd gan hofrennydd, a  ddychwelodd wedyn i godi’r criw achub a’u cludo i Nant Peris. Yno roedd John  Grisdale, a oedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’r noson cynt efo tîm achub  Llanberis ar Yr Wyddfa, i roi lift nôl iddynt at eu ceir.
        
        Cyrhaeddodd  bawb o’n criw ni’n ôl yn saff ond yn rhyfeddu (fel mor aml) at ddiffyg offer ac  esgidiau a dillad addas cymaint o bobl – a rhoi cip olwg inni ar faint  ymroddiad aelodau’r timau achub mynydd.
        Dyma  ymdrech i gofnodi enwau’r cerddwyr (gan amau fy mod efallai wedi hepgor un neu  ddau – ymddiheuriadau!): Dafydd Legal, Anne Till a Gwenno, Eifion  Llanfair-pwll, Eirwen a dau Alun, Morfudd, Tegwen a Medwyn, Chris, Hilary,  Garri a Dyfed, Manon, Marion, Sian Sh., Haf, Stephen, Charli, Myfyr, Andy o  Gaernarfon, Gareth Evret, Gareth Rynys, Prys ac Eryl.
        
      Diwrnod  gwych a’r cwmwl a ddaeth i orchuddio’r copa erbyn canol y p’nawn wedi cadw draw  nes ein bod ar ein ffordd i lawr. Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog.
Adroddiad gan Eryl Owain
  
        Lluniau gan Myfyr, Tegwen a Sian ar FLICKR
