HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Marchlyn 4 Tachwedd

Dyma ni’n cychwyn taith diwrnod cyfarfod bynyddol y clwb a ninnau heb arweinydd oherwydd bod Iolo druan wedi brifo’i gefn. O ganlyniad ddaru bach o dîm arwain y criw, sef finnau Sian, efo Elen a Dwynwen.

Roedd rhaid penderfynu os am gerdded y bedol yn erbyn neu gyda’r cloc ac enillodd doethineb Gwyn Llanrwst y dydd pan awgrymodd, os byddai’r haul yn tywynnu yn y prynhawn, fel ag yr oedd yn ei ddarogan, gwell fyddai cerdded tua’r gorllewin! Cwmwl go isel oedd yn ein cyfarch wrth i ni droedio ar hyd y lôn tua chronfa Marchlyn Mawr ac wedyn troi tua’r dwyrain i fyny llethrau Carnedd y Filiast. Cyn pen llawer o amser roeddem yn cysgodi rhag y gwynt go fain ar ben Y Filiast mewn da bryd i gael llymaid ganol bore. Cefais gyfle i ymarfer fy ‘nafio’ oherwydd y peth call oedd cymryd ‘bearing’ yn y niwl ar hyd y gefnen uwchben Llechen Cytrolar - o ‘cutting roller’, sef teclyn sy'n creu holltiadau, yn ôl Ieuan Wyn - neu Atlantic Slab, tua Mynydd Perfedd. Braf oedd gweld pawb, sef yr ugain ohonom, yn camu un wrth un allan o’r niwl ac yn ymgynnull ar gopa Mynydd Perfedd cyn mynd am i lawr tua Bwlch y Marchlyn. Wel yn wir, dyma ni’n dechrau cael cipolygon ar y wlad oddi tanom, wrth i’r cwmwl deneuo a’r niwl godi am ychydig. Roedd Llyn Marchlyn Mawr fel crochan o ddŵr berwedig oddi tanom, wrth i’r darnau carpiog o niwl godi oddi ar wyneb y llyn fel ager. Ymlaen â ni i fyny’r llethr go greigiog am Elidir Fawr a chael cinio cynnar oddi fewn y cylch cerrig pwrpasol ar y copa yno. Cawsom ein gwobrwyo wrth i ni fynd lawr oddi ar y gefnen uwchben Bwlch Melynwyn am Elidir Fach gan ei bod yn parhau i frafio a safom ar gopa Elidir Fach mewn heulwen! Wn i ddim pwy fuasai wedi meddwl y byddai hynny’n bosib tra’r oedd y cenllysg yn tasgu yn gynharach yn y dydd? Wedi ychydig o bendroni penderfynom barhau gyda’r ffordd amlwg i lawr llethrau Elidir Fach ac yn ôl am y ceir er mwyn cael paned yn y Lodge, Dinorwig cyn y cyfarfod a chinio blynyddol yng ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Diolch i: Tegwen, Meinir, Gwen Chwilog, Gwyn Chwilog, Anet, Elen, Dwynwen, Gerallt, Iolyn, Sioned, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Richard, Sue, Eryl Owain, Gareth Wyn, Gareth Everett, Dafydd Legal, Ieuan am eu cwmni.

Troed-nodyn: Dyma ddymuno gwellhad buan i Iolo.

Adroddiad gan Sian

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr

 

Y Cinio

Yn ystod y noson cawsom wledd o gyflwyniad gan Sam Roberts, cyn uwch Warden Gogledd Eryri’r Parc Cenedlaethol a mae o wedi bod yn ddigon hael i rhannu’r cerddi yr ysgrifennodd ar ôl ei ddau ymgais i ddringo Chomolangma (Everest) efo ni.

Chomolangma (1986)

Mam i holl fynyddoedd y byd, mae dy wallt
Fel mwng merlan sy’n carlamu’n wyllt
A ninnau fel morgrug bach fyth ar wib
Yn ceisio dringo dy anodd grib
Ond nid heddiw cawn sefyll ar dy big.
Yn hyrach mawreddwn ar dy faint
A diolch am gael cysgodi’n glyd
Yng nghesail dy ogoniant.


Chomolangma (1988)

Diolch am dawelwch i dreiglo dy drum
A’r nodded i ddringo dy binaclau llym,
Bach oedd y boen o beidio bachu dy big
Mawr llawenydd o ddychwelyd yn glyd,
O’r cemaes cyffrous i aelwyd ddiddig
O fawreddog fam i holl fynyddoedd y byd!
Chomolangma!

Cyfansoddwyd yng ngwersyll 2, tua 25,000 tr ar grib ogledd-dwyreiniol Chomolangma a chyhoeddwyd yn rhifyn 3 o 'Galwad y Mynydd'.