Taith i Long Mynd a Chaer Caradog 6-8 Mehefin
Roeddwn wedi bod yn awyddus i ddringo i gopa Caer Caradog bob tro y byddwn yn teithio trwy Church Stretton ar yr A49. Daeth cyfle trwy y clwb ac unodd 22 o aelodau am ddeuddydd difyr o gerdded a chymdeithasu difyr. Cafodd rhai lety yn yr hostel yn Bridges, eraill yn y dafarn leol ac un cwpwl mewn llety hunanddarpar. Ond unodd pawb am ginio min nos yn yr hostel, ac am beint a sgwrs yn y dafarn Bridges gerllaw.
Ni fu’n rhaid symud ceir fore Mercher, gan gerdded yn raddol ar lwybrau amlwg i gopa Long Mynd ar Pole Bank (Gwobr arbennig gan John Arthur a Linda am enwi y ddau yn gwyro i ddarllen y plat ar y copa !). Wedi ysbaid ar y copa i weld y golygfeydd eang a godidog – y ddwy Aran a chip o Gadair Idris i’r gorllewin a bryniau Malvern i’r dwyrain, ymlaen tros Round Hill ac i lawr i Little Stretton. Roedd y cerdded, er ar lwybrau da, yn gerdded llawer caletach nad oeddem wedi ei amgyffred. Gyda’r haul yn danbaid , roedd yr ysbaid am baned yng nghaffi Dyffryn Carding Mill yn dderbynniol, cyn dringo y cwm cul yn ôl i gopa Long Mynd.
Rhanwyd yn ddwy garfan yma, gan ddisgyn i lawr i gyfeiriad y llety mewn dwy ffordd wahanol, ond yr un mor ddiddorol.
Trannoeth roedd yr hinsawdd yn hollol wahanol, yr haul wedi diflannu gyda gwynt cryf, cymylau isel a chawodydd glaw. Rhanwyd cerbydau o Church Stretton i ben gogleddol crib y Lawley. Yma eto roedd y cerdded a’r dringo yn galetch na’r rhagdybiaeth. Ond fel yr oeddem yn troedio’r grib roedd y cymylau isel yn gwasgaru, gyda golygfeydd gwych o’r dyffrynoedd o bobtu. Wedi ysbaid tros ginio, dringwyd llethr serth Caer Caradog gan fwynhau ysbaid ar safle yr hen gaer, sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd yr Oes Haearn, yn ôl Eryl Owain.
Cafwyd deuddydd arbennig o ddifyr ar fryniau difyr tros ben. Diolch am gwmni Arwel, Gwilym ac Elen, Anet a Gwen Aaron, Angharad ac Eryl, Iona, Elizabeth a Mair o Lanrwst, Rhiannon a Clive, Eirlys ac Iolyn, Gwyn a Linda, Ifan Llewelyn, Gwen Evans, Richard o Eglwysbach a John Arthur.
Adroddiad gan Gwyn Williams
Lluniau gan Gwyn a Gwyn ar Fflikr