HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Môr a Mynydd 8 Chwefror


Cylchdaith yn nwyrain Ynys Môn

Fe lwyddodd y tywydd braf i ddenu nifer dda iawn o aelodau’r Clwb i Draeth Lligwy fore Mercher 8 Chwefror.  Cyn cychwyn ar y daith fe droesom ein golygon tuag at Ynys Dulas a’r tŵr a fu’n lloches i sawl morwr gwerthfawrogol yn yr oes pan oedd llongddrylliad yn ddigwyddiad cyffredin.  Cychwyn cerdded ar hyd rhan o lwybr yr arfordir heibio i Borth y môr at Draeth yr Ora.  Dilyn hen lwybr i mewn i’r tir ac anelu am gofeb Morysiaid Môn (a godwyd ar fferm y teulu); mae’r groes wenithfaen  yn edrych i lawr ar Draeth Dulas.
Mae’r gofeb yn darllen: Er cof am y Morysiaid, meibion fferm Pentreirianell, Dulas.  Coleddwyr eu hiaith, noddwyr llên a chân, gwŷr cyfarwydd, amryddawn, athrylithgar.
Neu fel y dwêd Goronwy Owen amdanynt:

Tri gwraidd frawd rhagorawl,
Haeddant er na fynnant fawl.

Roedd Lewis, y brawd hynaf, ymysg sawl peth, yn fardd, hanesydd, mesurwr tir a môr ac yn oruchwyliwr mwyngloddiau’r brenin.
Bu Richard yn ben ysgrifennydd Llynges y Brenin, yn olygydd y Beibl Cymraeg 1746 a 1752 ac fe’i cofir hefyd fel sylfaenydd Cymdeithas y Cymmrodorion.
O’r tri brawd, William oedd yr unig un a fu’n byw ym Môn drwy gydol ei oes.  Roedd yn swyddog y dollfa yng Nghaergybi, yn gerddor, llysieuydd a chasglwr llawysgrifau Cymraeg.
Lladdwyd y brawd ieuengaf, John, ar gwch rhyfel oddi ar arfordir Sbaen yn 34 oed.
Roeddent yn llythyrwyr toreithiog a chadwodd y brodyr mewn cysylltiad â’i gilydd ac eraill trwy lythyru.  Yn y llythyrau yma, ac mae cryn fil wedi eu cadw, ceir cyfoeth o wybodaeth am fywyd y 18fed ganrif, gan fod y  brodyr rhyngddynt yn ymddiddori ym mron popeth!  Dywedir mai’r Morysiaid yw pen-lythyrwyr ein llên.
Dyma ran o lythyr difyr a direidus William: “Pwy debycach chi ddaeth yma'r noson o'r blaen yn ddistaw bach heb neb yn ei ddisgwyl?  Dyfelwch!  Dim llai gŵr na’r gwalch moethus bonllefgar, a mawr ei anhunedd ganddo fo, y Meistr Peswch-i gyfarth gwell i mi fy hun ac i’m mab, ac i’m merch hefyd… fel y bydd yr ambasawdwyr tramor yn myned dwy’r llys o ben bwy gilydd.  Felly yma, mi roddais i ryw gordial iddo, ac y mae o’n beth distawach nag y bu; ond eto chwi gewch gefn y nos fawr ei glywed yn chwarae maes yr iwl dros yr holl dŷ.”

Wedi gadael y gofeb troesom i’r chwith ar y ffordd fawr am ychydig o lathenni i Frynrefail ac yna troi’n cefnau ar brysurdeb yr A5025 a dilyn llwybr troed drwy’r caeau nes cyrraedd Tyn y Mynydd.  Cadw at lwybr amlwg drwy’r grug a dringo’n raddol i ben yr Arwydd, sef copa Mynydd Bodafon.  Braidd yn ddilornus o’r teitl ‘mynydd’ oedd y mwyafrif gan mai 584 troedfedd yw ei uchder, ond mae’r dirwedd greigiog a’r golygfeydd ysblennydd yn rhoi’r argraff eich bod llawer uwch.  Ond cofier, - dyma’r mynydd ucha ar ynys Môn.... ond nid yr ucha ar Sir Ynys Môn!  A’r mynydd hynaf yng Nghymru os nad yn Ewrop, medd rhai gwybodusion, gan mai cwartseit - craig a fu unwaith yn dywodfaen ond sydd wedi ei hail-grisialu ac felly’n eithriadol o galed - a geir yma.  Ystyr ‘Bodafon’ yw Bod Addon/Aeddon, uchelwr, ac ysgrifennwyd iddo farwnad yn Llyfr Taliesin.
Cymryd y llwybr i’r de o’r copa a dod i lawr at lan Llyn Bodafon.  Mwynhau saig a sgwrs yn yr haul tra edrychem ar yr hwyaid ar y llyn.  Dim syndod fod yr artist Wilf Roberts wedi’i ysbrydoli gan dawelwch a symlrwydd yr ardal.

Pan liwia’r ha’ gopaon - Eryri
       Ar aur orwel Arfon,
    Harddet ŷnt dros wyrdd y don;
    Mwy difyr yw’ Modafon.

Cerdded yn ôl i gyfeiriad y môr a chadw at y ffordd er mwyn osgoi llwybrau mwdlyd rhan ola’r daith.  Troi i mewn i Dyddyn Môn a chael croeso cynnes a phaned a sgon (neu ddwy) yn y Caffi.  Llosgi’r calorïau wedyn trwy gerdded ryw filltir i’r maes parcio.  Galwodd rhai ohonom yn Din Lligwy i orffen diwrnod pleserus dros ben.

Daeth 34 ar y daith, sef Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Gwen Aaron, Dewi, Rita, Rhodri o ardal Bangor; Eryl, Angharad, Olwen, a Buddug o Benmachno; Irene a Gaynor o Bentrefoelas; Arwel, Iona, Mair, John Arthur a Gwilym Jackson o ardal Llanrwst; Haf, Carys a John, Rhiannon, Clive, Gwenan, a Gwilym o Feirionnydd, Llŷn ac Arfon; John Parry, Llŷr, Euros a Lowri, John Wyn, Dafydd Morus, Gwen, Lowri, Mair, Margaret a Nia o Fôn.  Diolch i bawb am gefnogi.

Adroddiad gan yr arweinyddion: Margaret a Nia

Lluniau gan Nia, Mair, Mags a Carys ar Fflickr