HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Grwyne Fach 9 Rhagfyr

Dyma ymgasglu yn Nghrughywel ger y Fenni, ar gyfer ein taith flynyddol yn y Mynyddoedd Duon.
O dan arweiniad medrus Rich Mitchley, dyma rannu ceir i'r cyfeiriad Gogledd Ddwyreiniol, tuag at Fferm y Cwm (angen caniatad i barcio yno).

Gyda chriw o 23 yn cerdded dyma ni'n mynd ati i esgyn tuag at Pen Twyn Mawr (658 m) ac ymlaen gyda ochr y goedwig i Ben y Gadair Fawr (800 m). Wedi cyrraedd y copa, doedd fawr o amser i fwynhau y golygfeydd godidog gan fod yr eira dan draed a'r tymheredd isel yn ein herio ni ymlaen tuag at Waun Fach (810 m). Hyfryd oedd oedi yma i gael cinio a sgwrs, gan edrych ar y tirwedd on cwmpas – Y Mynyddoedd Duon i'r Dwyrain, Mynydd Troed i'r Gorllewin a lawr Cwm Grwyne i'r De.

Roedd amser yn ein herbyn i gyrraedd copa Pen Twyn Glas, felly dilyn y llwybr gwnaethom gan ddilyn afon Grwyne fechan a croesi pont Hermitage a cherdded heibio adfeilion Tŷ Mawr Hermitage.

Dilynwyd y ffordd wedyn nôl at y ceir. Taith o tua 10 milltir gyda esgyniad o 684 m.

Gorffenwyd y noson yng nghwni ein gilydd gan wledda yng Nghwesty y Bear Crughywel.

Hyfryd oedd cael cwmni criw o'r Gogledd gyda ni i fwynhau golygfeydd hyfryd y Mynyddoedd Duon.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr