Yr Wyddfa o Rhyd Ddu 11 Chwefror
Wele’n cychwyn dri-ar-ddeg
O gerddwyr bach ar fore teg.....
....ond erbyn cyrraedd Bwlch Cwm Llan roedd na bymtheg! .......a doedd y bore ddim yn deg iawn chwaith...... . Ia, bore digon gaeafol; cymylau ar y copaon, a’r byd yn llwyd a llwm. Ond buan iawn ddaru ni godi gwres wrth gerdded o Ryd Ddu i fyny’r lôn chwarel am Fwlch Cwm Llan. Stopio am baned yng nghanol olion y chwarel, ble ddaru rhai o’r criw gerdded trwy dwnel byr, heibio pibonwydd trwchus, i geudwll cudd. Ein nifer yn cynyddu wrth i Charli a Raymond ymuno. Ymlaen fyny Allt Maen Deryn, efo golygfeydd da draw am Grib Nantlle a’r Aran, a’r mymryn lleiaf o awyr las. Ymgramponu (!) cyn croesi Bwlch Main a’r tywydd yn aeafol – eira powdr dan draed a’r gwynt, erbyn hyn, yn chwipio’r plu mân i’n hwynebau. Cinio yng nghysgod Hafod Eryri, yna picio i’r copa, yng nghwmni nifer rhyfeddol o bobl oedd wedi dod fyny llwybrau eraill, yn cynnwys un creadur mewn jîns oedd wedi rhewi fel cardfwrdd amdano!
Dros Bwlch Main eto, a lawr llwybr Rhyd Ddu yn ôl at y ceir. Diwrnod da o fynydda gaeaf unwaith eto eleni.
Diolch am gwmni Mark, y ddau Steve, Chris, Maldwyn, Sioned, Rhun, Iolo, Alun (Caergybi), Iolyn, John (Parry), Myfyr, Charli a Raymond.
Adroddiad gan Elen Huws
Lluniau gan Sioned Jones ar Fflickr