O Lanfihangel y Pennant o gylch y Foel Ddu 13 Medi

Parcio’r ceir yn safle parcio Castell y Bere ac edrych yn bryderus ar y cymylau duon a oedd yn cuddio pen y Gader.  Ond ni ddaeth glaw.  Ciliodd y duwch ac fe gafwyd diwrnod braf o gerdded mewn heulwen a chwmwl ar yn ail.  Aros ger Tyn y Ddôl i ddarllen y geiriau ar y gofeb i Mari Jones a gerddodd oddi yno i’r Bala ar hyd pa lwybr nis gwyddom.  Roedd tri dewis ganddi ac aeth ein taith a ni dros rannau o’r tri yn ystod y dydd.  Aethpwyd ymlaen wedyn ar hyd y llwybr sydd yn arwain yn y pen draw i gopa’r Gader.  Ond troi oddi ar y llwybr a wnaethom cyn pen dim gan groesi afon Cader a dringo i gyfeiriad hen furddyn Pencoed a chymryd cyfle yn y fan honno i gael paned ac i fwynhau’r olygfa draw dros ddyffryn Dysynni a Chraig y Deryn.
                        
Gwelem, ar lawr y dyffryn ddau ffermdy, Caerberllan a Thyn y Bryn, lle bu’r fuwch ddu Gymreig yn amlwg yn eu hanes.  Ers canrif a mwy creodd bridio gofalus bencampwyr y brid hwnnw ac mae’r rhaglen yn parhau. Y Nhyn y Bryn hefyd y magwyd William Owen Pugh, geiriadurwr a gramadegydd oedd yn brif awdurdod yr iaith yn ei gyfnod ac a gyhoeddodd eiriadur Cymraeg – Saesneg ym 1803.  Mae’r ddau ffermdy wrth odre Craig y Deryn sydd yn hynod am fod y bilidowcar yn dal i nythu yno er fod y môr wedi wthio yn ôl i’r pellter gan systemau draenio a osodwyd ar hyd dyffryn Dysynni dros y canrifoedd.

I’r de-ddwyrain o Bencoed arhoswyd i weld Carreg y Gŵr Drwg.  Mae dwsinau o enwau wedi eu cerfio ar y garreg hon a’r cynharaf, yn ôl y son, wedi ei roi arni ym 1564 ond yr hynaf a welsom ni oedd 1788.  Dywedir y byddai trigolion plwyfi Llanfihangel a Thalyllyn, sawl canrif yn ôl, yn cyfarfod wrth y garreg ar y Sul i ganu ac i ddawnsio ond iddynt gael eu dychryn un tro gan y Gŵr Drwg ar ffurf asyn a ruthrodd i’w canol ar y garreg.  Ni fu dawnsio wedyn!  Nid oes ryfedd felly bod cymaint o enwau ar y garreg ond mae ambell un ohonynt yn weddol ddiweddar.

Mae’r garreg ar lethr dwyreiniol Waun Rhiwogo a digon gwlyb oedd y llwybr ar hyd y waun o ganlyniad i dywydd glawog canol Medi.  Ger Rhiwogo cawsom fwyta ein cinio yn yr haul gan fwynhau hefyd yr olygfa drawiadol oddi tanom o Lyn Myngul (neu Lyn Talyllyn erbyn heddiw) a tharddiad afon Dysynni.  Taith o ryw filltir a hanner wedyn trwy’r goedwig ar ein ffordd i Gwm Nant yr Eira. Islaw inni ar waelod y dyffryn yr oedd Cedris, lleoliad un o ffilmiau cyntaf y teledu Cymraeg, “Nel”, â Beryl Williams yn chwarae’r brif ran. Wedi croesi’r bwlch uwchben Nant yr Eira gwelem ein llwybr yn glir oddi tanom yn crymanu ei ffordd rownd cesail y Foel Ddu ac i lawr yn ôl i Lanfihangel y Pennant.  Ymhen yr awr yr oeddem yn eistedd i lawr wrth fyrddau Caffi’r Ceunant yn Abergynolwyn yn mwynhau – nid jest coffi a sgon fel y tybiem ond gwledd o amrywiol gacennau bach a galwyni o de a choffi i’n disychedu! Mi awn yno eto!

Roeddem yn griw o ddeunaw (a thri wyneb newydd yn ein mysg) –Vanessa Priestley, Huw Williams, Llyr, Meirion, Margaret, Iolyn, Eirlys, Anet, Gwyn, Arwyn, Rhys, Gwen, Hywel Watkin, Awenna Jones, Gwilym Jackson a thri John sef John Arthur, John Williams a John Parry.

Adroddiad gan Llyr a Meirion (oedd yn dirprwyo ar ran Nia a fethodd ddod).

Lluniau gan Llyr ag Anet arFflikr

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

9/20/17 9:00