HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau a Phen yr Ole Wen 14 Ionawr




Daeth pymtheg ohonom at ein gilydd ar fore oer a niwlog yng Nglan Dena, y bwriad oedd cychwyn y daith am 9.15, ond yna daeth cawod trwm o eirlaw, ac fe aeth pawb yn dol i'w ceir i gludo.
Roedd hi wedi 9.30 pan fentrodd pawb i fyny'r lon bost am tua milltir a chwarter, ac yno, cyn troi am Ffynon Llugwy fe ymunodd cyflwynydd a dyn camera a ni.

Wedi cyrraedd Ffynon Llugwy, mi gefais i, Eryl ac Eirwen gyfweliad ar gyfer rhaglen Clwb ar S4C (darllediad am 10.00 nos Sul, 22 Ionawr). Roeddent yn awyddus i wybod am y daith, ac am Clwb Mynydda Cymru, ac fe benderfynwyd i barhau gyda'r ffilmio nes cyrraedd Bwlch Eryl Farchog.

Erbyn cyrraedd Pen y Waun Wen, roedd cnwd da o eira o dan draed ac roedd y creigiau wedi rhewi, mi roedd gwynt cryf yn chwythu'r eira yn ein wynebau a niwl trwchus yn gwneud gwelededd yn wael iawn, a felly y bu hi, ar draws y Carneddau i Pen yr Ole Wen. Balchder oedd cyrraedd Cwm Lloer a cael gweld pellach na'n trwyna.

Mi roedd hi'n dywyll erbyn cyrraedd Glan Dena, a cawsom gawod trwm iawn o law i neud yn siwr bod pawb yn socian yn mynd adra! Taith 9 milltir ond yn teimlo'n llawer hirach, ond ar y cyfan mi roedd pawb wedi mwynhau

Diolch i Iolo Roberts, Dylan Huw, Dafydd Legal, Sioned Llew, Elen, Eirwen, Hilary, Edward, Gari, Dyfed, Steven Llechid, Marc, Gareth ac Eryl am eich cwmpeini

Adroddiad gan Chris Humphreys

Lluniau gan Sioned Jones ar Fflickr