HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod 14 Mai

Deg o aelodau ddaeth i faes parcio Bryn Glo ar fore 14 Mai i ddilyn taith rhif 7 Copaon Cymru i Foel Siabod. Y criw oedd Huw, Dewi, Hywel, Haf, Gwen, Nia, Rhiannon, Liz – a’r ddau arweinydd Aneurin a Dilys.

Cawsom dywydd bendigedig ar gyfer cerdded – haul yn gwenu arnom bob cam bron ond digon o awel i’n rhwystro rhag gorboethi. Wedi cychwyn dros Bont Cyfyng ac i fyny’r ffordd, heibio olion chwarel y Rhos, cawsom seibiant am baned yn chwarel y Foel. Ymlaen wedyn heibio i Lyn y Foel am waelod Daear Ddu cyn dringo’r grib greigiog i’r copa. Cyrhaeddom yno mewn pryd i gael cinio ac am ei bod yn ddiwrnod clir, golygfeydd 360° o fynyddoedd Eryri o’n cwmpas. Aethom i lawr tuag at Blas y Brenin a throi wedi cyrraedd y goedwig i gerdded wrth lan yr afon yn ôl i Bont Cyfyng.

Diolch i Haf am ein helpu i adnabod cân yr adar oedd yn rhy swil i ddod i’r golwg – corhedydd y coed, telor y coed, y gwybedog brith a’r llinos bengoch. Cawsom gyfle hefyd i ryfeddu at y goeden hynod ar lan yr afon lle mae derwen, bedwen a chriafolen fel petaent yn tyfu o’r un bonyn.

Diolch i bawb am eu cwmni hawddgar a wnaeth y daith yn un mor bleserus.

Adroddiad gan Dilys

Lluniau gan Aneurin ar Fflickr