HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith ystafelloedd te yr Wyddfa - 3, 14 Mehefin



"Deunaw paned, os gwelwch yn dda." Dyna oedd y neges wrth i’r Clwb groesawu’r olaf o’r aelodau ar fwrdd bws Sherpa’r Wyddfa o Feddgelert i Orffwysfa ar gyfer trydydd cymal Teithiau Ystafelloedd Te o amgylch Yr Wyddfa.

Fel teithiau yn yr Alpau, roedd ein taith yn dechrau ar yr uchder uchaf y diwrnod. Hwre !  Heb oedi, aethom yn syth o’r arosfan bws i lawr dyffryn yr Afon Trawsnant, heibio adfeilion tyddyn Penlan a ‘cadeirlan y dyffryn’, sef pwerdy trydan dŵr Cwm Dyli. Dim sôn am fyngalo Lockwood (rheolwr cyntaf y pwerdy), dim ond yr hen ffermdy gyferbyn sydd yn ganolfan i glwb dringo elitaidd i ferched.

Ar ôl crwydro yn hamddenol drwy ddolydd a choedlannau gyferbyn a’r Afon Glaslyn, cyrhaeddom aber Llyn Gwynant, lleoliad nifer o ffilmiau diweddar. Ar ôl codi i ben y bryn aethom heibio hen waith copr lle anfonom sherpas Elen a Rhodri ymlaen i sicrhau ein cinio yng Nghaffi Bethania. Y rhan olaf o daith y bore oedd ar hyd caeau fferm Hafod y Llan a glan yr Afon Glaslyn unwaith eto.

Ar ôl cinio - neu bicnic ar lan yr afon, croesom y dyffryn ac aethom drwy dir Llyndy Isaf - lleoliad blwyddyn prentisiaid  i ffermwyr ifanc. Cyn bo hir, roeddem ar lan Llyn Dinas cyn cyrraedd safle gwaith copr Sygun, sy’n atyniad twristaidd. Roedd y rhan olaf o’n taith ar lon bach i Feddgelert - ac ystafell de arall.

Beth am y bedwerydd cymal - yr olaf ? Bydd rhaid disgwyl tan 2018 !

Adroddiad gan Clive

Lluniau gan Aneurin ar Fflikr