Dolgarrog 15 Mawrth
34 ohonom yn ymuno ym maes parcio Ewyn Eryri (Surf Snowdonia), Dolgarrog ar fore bendigedig o braf i gerdded yn serth i fyny ar lwybr igam ogam drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog i gyfeiriad cronfa ddŵr Coedty. Cael seibiant haeddiannol ar lwyfan uwchben y pentre i fwynhau golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy a’r ganolfan syrffio oddi tanom. Ymlaen wedyn i Goedty i gael paned gyntaf y dydd.
Ymlaen i Gwm Eigiau a oedd ar ei orau yn yr haul braf hefo’r Carneddau uwchben gyda gweddillion eira’r Gaeaf yn hyfryd mewn cefndir o awyr las.
Penderfynodd rhai o’r criw oedd yn gyfarwydd â’r ardal aros ar ddechrau’r llwybr yn dilyn i Gowlyd tra’r oedd y gweddill, a rhai heb fod yn Eigiau o’r blaen, am biciad yn sydyn i weld y bwlch yn yr argae a hefyd weddillion y llyn. Ond wedi cyrraedd yr argae penderfynwyd cael cinio mewn llecyn cynnes ar waelod yr argae. Ar ôl oedi yn yr haul braf, dychwelyd at weddill y criw ond roeddynt wedi cychwyn am Gowlyd ac yn ein disgwyl yno.
Wedi inni ymuno, dilyn y trac hefo wyneb newydd cyn troi i lawr am y bont haearn a chael panad arall uwchben y ffos sy’n cludo dŵr i Goedty. Ymlaen ar ffordd bwrdd dwr yn serth i lawr i’r lôn bost ger pont afon Ddu cyn croesi’r lôn ac yn ôl ar lwybr drwy’r ddôl i ddechreuad y daith yn Nolgarrog. Panad a chacan wedi ei drefnu inni yng nghaffi'r ganolfan Ewyn Eryri i gloi diwrnod braf iawn.
Llawer o ddiolch i’r criw hwyliog am wneud y daith yn bleserus sef: Geraint Percy, Gwen Aaron, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, John a Carys Parry, Haf, Hywel, John Port, Nia Jones, Llŷr, Dafydd Williams, Clive James, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Dewi Aber, Rhodri, Gwyn Chwilog, Linda, Anet, Gwenan, Aneurin, Dilys, Rhiannon, Nia, Buddug, Jane, Angharad, Eryl, Iona, Tegwen, John Parry Sir Fôn, Arwel a Gwilym yr arweinydd. Hefyd Jac a Morgan cŵn ufudd Dewi Aber.
Adroddiad gan Gwilym Jackson
Trychineb Dolgarrog 1925
Gweler tudalen 23 yn y llyfr Copaon Cymru am hanes y trychineb difrifol a ddigwyddodd yn 1925.
Hefyd isod gwelir ddarn o ddiddordeb gan Geraint Percy sy'n berthnasol i ardal y daith.
Lluniau gan Aneurin a Gwilym ar FLICKR
Cwm Eigiau a J Lloyd Williams (gan Geraint Percy)
I lawer mynyddwr y mae taith ddiwrnod yn golygu mwy o bleser a boddhad na dim ond y cerdded ar y diwrnod ei hun. I'r sawl a gymer ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth ei wlad gall y darllen a ddilyno'r cerdded – neu a fyddo wedi rhagflaenu'r daith – fod yn faes tra diddorol. Dyna yn sicr fy mhrofiad i yn dilyn un o deithiau dydd Mercher Clwb Mynydda Cymru dan arweiniad Gwilym Jackson yng nghymoedd Eigiau a Chowlyd ar Fawrth 15fed eleni.
Digwyddwn fod wedi darllen yn ddiweddar, gyda phleser arbennig, gyfrolau o atgofion J Lloyd Williams (1854 -1945), y botanegydd a'r cerddor a aned yn Llanrwst. Aethai llawer o'r cynnwys yn angof ond wrth graffu ar y map nos Fercher daeth profiad y llanc deunaw oed yn fyw iawn i mi. Awst 1872 oedd hi ac am hanner awr wedi wyth yn y bore, cychwynnodd J Lloyd Williams ar ei ben ei hun ar daith i ben Carnedd Llywelyn. Cerddodd i gyfeiriad Llanrhychwyn a Threfriw ac yna dringo rhiw serth y Cefn. Ar y dde iddo yr oedd Gallt-yr-ysfa a'r tu hwnt Mynydd Deulyn gyda Moel Siabod yn y pellter eithaf. O fan uchaf y Cefn prysurodd i lawr i Gwm Cowlyd a chyrraedd afon Ddu. Yna roedd rhaid croesi'r bryniau a gysylltai Penllithrig-y-wrach â Moel Eilio. Yn y nodiadau a gadwai yn Saesneg ysgrifennodd: "An arduous climb among innumerable rock towers – most picturesque," ond ni chofiai i'r llechwedd fod yn "arduous" o gwbl. O'r gefnen yr oedd yr olwg ar Gwm Eigiau yn drawiadol iawn – "y llyn yn hir, a'r afon yn cychwyn, nid yn y pen isaf, ond heb fod ymhell o'r man y deuai i mewn i'r llyn. O'r ochr bellaf cyfodai clogwyni geirwon talsyth uwchben y dyfroedd; ond yn y pen isaf gadawsent le i ffermdy Tal-y-llyn."
Wrth gyfeirio at ffermdy Tal-y-llyn, y mae'n cofio i'w nain ar ochr ei fam fod yn gweini yno, "yn un o'r lleoedd mwyaf unig yn Eryri'r pryd hwnnw". Ond yng ngeiriau'r nain, "O, na, 'toedd hi ddim mor annifyr, w'st ti. Ambell hirnos gaeaf mi fyddai yno ddeud straeon a chanu; mi fuo yno un gwas yr oedd gyno fo ddigon o hen gerddi doniol." Anodd yw i ni heddiw gredu fod yna gymdeithas o Gymry yn byw ar y llwyfandir uchel hwn ar un adeg. Ond rwy'n siŵr y gallwn ni, ar ôl gwirioni ar yr olygfa ddydd Mercher, ddychmygu'r forwyn ifanc, Gaenor, un gaeaf eithriadol o galed wedi iddi gael ei hanfon dros y mynydd i Drefriw efo'r gaseg i gyrchu pwn o flawd, wrth ddychwelyd yn cerdded ar rew'r llyn a'r ffermwr a'r wraig ar y lan yn gweiddi arni i droi'n ei hôl. Croesi'n ddiogel wnaeth Gaenor a'r gaseg ond bu'n rhaid iddi ddioddef pregeth huawdl am ei rhyfyg.
Dywed J Lloyd Williams iddo dynnu brasluniau o'r llyn. O wybod am yr argae a godwyd yn ddiweddarach ac am y llanastr a achoswyd pan fylchwyd ef yn 1925 byddai'n ddiddorol gwybod a yw'r brasluniau hynny ar gael heddiw mewn rhyw lyfrgell. Ond ymlaen â'r daith. Pan welodd y bachgen ffermdy heb fod ymhell – Cedryn, mae'n debyg – aeth yno a chafodd groeso caredig gan y wraig a digon o laeth enwyn blasus i'w yfed. Holodd y wraig "pa gin bellad" yr oedd am fynd a'i hymateb, pan ddywedodd pen Carnedd Llywelyn, oedd "Grym fo'n gwarchod!"
Ar ôl gadael y ffermdy yr oedd pen uchaf y cwm yn troi i'r dde ac wrth ddringo'r llechwedd gwelltog gwelodd y naturiaethwr ifanc liaws o'r genau-goeg melynion yn torheulo ar y meini neu yn ffoi rhag ei ofn. Yr oedd rhan olaf y dringo drwy gannoedd o feini a orweddai blith-draphlith dan draed. Ar y copa cafodd seibiant i geisio darlunio'r hyn a welai. "Tua'r gorllewin, mynyddoedd gwyllt Eryri, gyda'u llynnoedd a'u creigiau; tua'r dwyrain, bryniau gwâr Sir Ddinbych a'u miloedd meysydd; a rhwng y gwyllt a'r gwâr, yr afon Gonwy ger Llansanffraid yn ymledu ac ymlonyddu cyn ymgolli yn y môr, a welir yn ymestyn tu hwnt i Ynys Fôn."
O'r copa rhedodd i lawr y llechwedd raddol i gyfeiriad Cwm Dulyn ac oddi tanodd gorweddai Melynllyn a Llyn Dulyn. Y mae'n werth darllen yr hyn a ysgrifennodd yn ei nodlyfr ar y pryd:
"A dyma fi'n eistedd ar y banc uwchben Dulyn, y llyn y clywais fy nain ac eraill yn dweud, gyda phob difrifwch, fod rhyw ofnadwyaeth yn perthyn iddo - ellyllon a bodau eraill yn llochesu yn ei ddyfroedd ac yn agennau ei glogwyni. O amgylch y llyn ar bob ochr, ond yr hon yr arllwysa'r afon drwyddi, y mae clogwyni duon, uchel. Clywaf sŵn dyfroedd, ac ar hyd wynebau rhai o'r creigiau y mae rhubanau gwynion o ddŵr ewynnog yn hongian. Clywaf o bell ambell ddafad, ac yna gwelaf, ar rai o'r silffoedd uchel draw, ddefaid yn edrych yn fychain fel teganau plant. Ar wyneb y dyfroedd y mae tawelwch marwolaeth; ond yn sydyn dyna wawch gras cigfran, ac uwchben gwelwn walch o ryw fath, a chigfran, yn nydd-droi o amgylch ei gilydd ac yn ymladd yn ffyrnig. Yn fuan aeth yr ymladdwyr o'r golwg dros greigiau'r llyn, ac ni wn eto pwy a drechodd."
Ar ôl rhagor o fyfyrio prysurodd y bachgen gyda glan afon Dulyn heibio hen gaer Pen-y-gadair nes cyrraedd pentref Llanbedr-y-cennin a'r ffordd bost am hanner awr wedi pedwar. Ymlaen wedyn trwy Dal-y-bont a Threfriw a chyrraedd adre am hanner awr wedi saith ar ôl un awr ar ddeg llawn o ryfeddodau. Yr oedd wedi cerdded mewn pedwar cwm, a llyn neu ddau ym mlaen pob un, a'u hafonydd yn rhedeg yn gyfochrog o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ac yn tywallt eu dyfroedd i afon Gonwy. Dyma'r afonydd yn eu trefn : (1) Cwm Crafnant, a'r afon yn cludo dyfroedd llynnoedd Geirionnydd a Chrafnant dros fân raeadrau Trefriw; (2) Cwm Cowlyd, a Llyn Cowlyd yn anfon afon Ddu i gwympo dros Raeadr Dolgarrog; (3) Cwm Eigiau, gyda Llyn Eigiau, ac afon Porthllwyd yn disgyn dros erchwyn Rhaeadr Porthllwyd; (4) y ddau lyn, Melynllyn a Dulyn, yn anfon eu dyfroedd drwy'r afon Dulyn.
Yn 1942 y cyhoeddwyd y gyfrol Atgofion Tri Chwarter Canrif II. Ym mrawddeg olaf y bennod y dyfynnaf ohoni dywed J Lloyd Williams: "Er hyned ydwyf, bwriadaf wneud y daith unwaith yn rhagor." Braf cael talu teyrnged iddo.
Nodyn
Yn 1854 y ganwyd J Lloyd Williams ym Mhlas Isa, Llanrwst. Ef oedd yr hynaf o saith o blant. Chwarelwr oedd ei dad. Fe'i haddysgwyd yn y Coleg Normal a bu'n brifathro ysgol elfennol Garndolbenmaen am ddeunaw mlynedd. Yna gadawodd y swydd i wneud gwaith ymchwil ar wymon yn y Royal College of Science, Llundain. Bu'n ddarlithydd botaneg ym Mangor ac yn Athro botaneg yn Aberystwyth. Yr oedd yn awdurdod cydnabyddedig ar wymon ac ar blanhigion arctig-alpaidd Eryri. Yr oedd yn flaenllaw hefyd yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bu farw Tachwedd 15fed 1945 a chladdwyd ef yng Nghricieth. Yn 2003 cyhoeddwyd cyfrol ar ei fywyd gan Dewi Jones, Naturiaethwr Mawr Môr a Mynydd – Bywyd a Gwaith J Lloyd Williams.Y mae ei chwaer, Elisabeth Williams, yn adnabyddus fel awdur dwy gyfrol o atgofion tra diddorol, Brethyn Cartref a Siaced Frait.
Cwm Cowlyd a'r Dylluan
Go brin y disgwyliwn weld tylluan yng ngolau dydd yng Nghwm Cowlyd ddydd Mercher Mawrth 15fed a chriw ohonom, aelodau Clwb Mynydda Cymru, ar daith dan arweiniad Gwilym Jackson o Ddolgarrog i Gwm Eigiau a throsodd i Gwm Cowlyd ac yn ôl i faes parcio Ewyn Eryri. Gartref gyda'r nos, fodd bynnag, wrth ail-fyw taith y diwrnod, cofiais am chwedl enwog Culhwch ac Olwen a rhan Cuan Cwm Cowlyd ynddi. O'r sylw a rydd y Saeson – a chenhedloedd eraill – i Arthur gallech feddwl mai Sais rhonc ydoedd. Ond yn chwedl Culhwch ac Olwen, un o chwedlau mawr y byd, y ceir y cyfeiriad cyntaf at Arthur. Ynddi y mae'n rhoi cymorth i Gulhwch i ennill Olwen yn wraig. Yr oedd ei thad hi, Ysbaddaden Bencawr, wedi gosod nifer fawr o dasgau neu anoethau yr oedd yn rhaid i Gulhwch eu cyflawni. Yn un ohonynt yr oedd yn rhaid dod o hyd i Fabon mab Modron a 'ddygwyd yn dair noswaith oed cydrhwng ei fam a'r pared'. Anfonwyd negeswyr i chwilio amdano ond ni allai Mwyalch Cilgwri na Charw Rhedynfre helpu. Fe'u hanfonwyd at greadur 'a greodd Duw yn gynt' na hwy. At 'Guan Cwm Cawlwyd' yr aethant. Yn niweddariad rhagorol Dafydd a Rhiannon Ifans, dyma a ddywed y chwedl: "Pan ddeuthum i yma gyntaf yr oedd y cwm mawr a welwch yn ddyffryn coed. Ac fe ddaeth cenhedlaeth o ddynion iddo ac fe'i difawyd. Ac fe dyfodd ynddo ail dyfiant coed, a hwn yw'r trydydd tyfiant. A minnau, y mae bonion fy adenydd yn bwt. O hynny hyd heddiw ni chlywais i ddim am y gŵr y gofynnwch chwi amdano. Er hynny, fe fyddaf i'n arweinydd i negeswyr Arthur hyd oni ddewch i'r lle y mae'r anifail hynaf sydd yn y byd hwn a'r un a deithiodd fwyaf – Eryr Gwernabwy."
Y mae'r thema neu'r motif hwn o holi'r anifeiliaid hynaf yn fotif rhyngwladol hen iawn ac fe'i ceir yn amlwg yn y chwedl Gymraeg odidog hon a gyfansoddwyd yn ei ffurf derfynol tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Yr oedd rhannau ohoni'n bod ar lafar yn Gymraeg lawer cynt na hynny.
Wrth hel meddyliau fel hyn, cofiais fod eleni yn 'Flwyddyn y Chwedl' yng Nghymru. Yn fy niniweidrwydd tybiais y cyfeirid at y Mabinogion, a Chwedl Culhwch ac Olwen yn arbennig, yng nghyhoeddusrwydd Llywodraeth Cymru. Edrychais y wefan. DIM.
I gwblhau fy mhrofiad cyfoethog i o'r daith i Gwm Eigiau a Chwm Cowlyd gyda chyfeillion o Glwb Mynydda Cymru hoffwn dynnu sylw at gyfres o englynion ardderchog Alan Llwyd i ddylluan Cwm Cowlyd. Fe'u cyhoeddwyd gyntaf yng nghyfrol Alan, Edrych Trwy Wydrau Lledrith (1975), cyfrol a gyflwynwyd i Dei Tomos, i John Ellis Williams ac i Fudiad yr Urdd.
Y Dylluan – Alan Llwyd
Mae coel mai yng Nghwm Cowlyd – y trigit,
Wreigan or-fusneslyd;
Dy gorff yn llygad i gyd
Yn wincian bob rhyw encyd.
Y chwaer hyn na charw henoed – Rhedynfre,
Yr adeinfrown, fyrdroed;
Dywed im beth ydyw d'oed
Hengall edn y cringoed.
Oged o big, llygad byw – ar agor
Rhwng y brigau lledfyw;
Ar ei choeden gwrach ydyw,
A dwys ei myfyrdod yw.
Fe wyr hon bob cyfrinach, – mae'n wincian
Mewn encil neu gilfach;
A'i hoyw bib, hi yw bwbach
Y coed, a'i byrdroed fel bach.
Hen ddwyster dan hen ddistiau – yn llechu
Gan hel llwch o'r conglau;
Brenhines lloches y llau,
Aeres yr ysguboriau!
Y doethaf oll, ai d'Athen – yw'r teisi,
Socrates y goeden ?
Tydi'r baganwraig hirben
Yw pwyll bob doethineb hen.
Nodyn : Yn chwedl Culhwch ac Olwen, wrth geisio dod o hyd i Fabon Fab Modron, y mae Arthur yn holi'r pum creadur hynaf oll ar y ddaear ynghylch Mabon; y mae pob un o'r creaduriaid hyn yn anfon Arthur at y creadur sydd ychydig yn hŷn nag ef i gael gwybodaeth. Dyma'r creaduriaid gan ddechrau gyda'r ieuengaf: Mwyalchen Cilgwri, Carw Rhedynfre, Tylluan Cwm Cowlyd, Eryr Gwernabwy, ac Eog Llyn Llyw, yr olaf a'r hynaf ohonynt.