Llwybrau Harlech a’r ardal 15 Tachwedd

 

Daeth 27 ynghyd yn stesion lein y Cambrian wrth droed Castell Harlech, rhai wedi manteisio ac wedi teithio ar y trên o’r de a’r gogldd. Cafodd pawb eu croesawu gan John Parry. Ar ôl gadael y stesion braf oedd dringo llwybr igam ogam drwy’r coed heibio tir Coleg Harlech i Ben y Graig, lle cafwyd golygfa wych o dref Harlech, Morfa Harlech a’r Wyddfa, a’r Castell, a rhywfaint o hanes y dref gan John a Haf.

Oddi yma aethpwyd heibio hen ysgol gynradd Harlech, a dringo i’r ‘topia’ rhwng Harlech a phentref Llanfair. Wedi pasio fferm Brwynllynnau a dringo’r gamfa gerllaw, eisteddodd y criw o fewn libart dau o’r cytiau Gwyddelod amlwg i gael tamaid o ginio cynnar. Yna, ar ôl cael cipolwg ar fynyddoedd Ardudwy – Rhinog Fawr, Rhinog Fach, Llethr, Diphwys, Moelfre, a’r Llawllech, a Chader Idris tua’r de - ymlaen wedyn a dringo Moel Senigl i gael cinio go iawn, a chyfle i edrych i lawr eto dros Forfa Harlech, Eifionydd a Phenrhyn Llŷn.

Wrth i’r niwl fygwth cau amdanom, dilyn llwybrau rhwng ffermydd y fro wedyn heibio Garth Mawr, Hendre Ddyfrgi, Rhyd Galed Uchaf a Chae Du, a thro bach heibio rhai o dai hanesyddol Harlech sy’n gysylltiedig â phobl fel Robert Graves a’r teulu Finch Hatton (Out of Africa), a chyrraedd Capel Uchaf (Rehoboth), capel y Bedyddwyr Albanaidd sy’n dal i ffynnu yn Harlech. Galw wedyn heibio pwll bedyddio’r capel ac i lawr i’r dre (rhai o’r merched yn galw heibio siop ddefnyddiau Cae Du Designs), a phaned a sgwrs yng Nghaffi newydd y Castell, cyn cerdded i lawr Llech, rhiw mwyaf serth Cymru yn ôl y sôn, i’r stesion.

Diolch i bawb am eu cwmni - Eileen, Huw, Ellis, Owenna, Gwyn Chwilog, Gwenan a Gwil, Nia Wyn, Rhiannon HJ, Rhiannon a Clive, Gwilym Jackson, Iona, Meinir Huws, Hywel Watkin, Gwilym T, Rhys Llwyd, Eirian Lewis, Llŷr, Margaret, Emyr, Angharad, Buddug, Jane ac Ann - ac i John P am arwain ac am yr wybodaeth ddifyr.

Adroddiad gan Haf Meredydd

 

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

11/16/17 16:27