Pedol Cwn Pennant 16 Medi
Er gwaetha'r rhagolygon tywydd oedd yn addo cawodydd trymion cafodd y chwech ohonom ddihangfa rhag y glaw oedd i'w weld o'n cwmpas ar y cribau a copaon cyfagos. Er mai Pedol Cwm Pennant oedd enw swyddogol y faith yw byddai "O'r mast i'r môr" yn llawn cystal enw. Wrth i ni droi cefn ar fast enwog Nebo cawsom Grib Nantlle mwy neu lai i ni ein hunain, a Moel Hebog, sef copa olaf y daith yn edrych yn dywyllodrus o agos. Cafwyd cinio ym Mwlch y Ddwy Elor cyn y dringo serth i gopa Moel Lefn, hon ydi dringfa galetaf y daith. Er bod Moel Hebog yn dipyn mwy o fynydd, buan iawn y cyrheddwyd seithfed copa'r dydd. Disgyn wedyn heibio cronfa Cwm Ystradllyn a chreigiau Pant Ifan i ble bu'r môr yn Nhremadog. Deunaw milltir o daith mewn deg awr, diolch i Morfudd, Manon, Ieuan, Iolyn a Gerallt am eu cwmni.
Adroddiad gan
Dwynwen
Lluniau gan Gerallt a Morfudd ar Fflikr