HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau 16 Rhagfyr

Criw o un ar ddeg ohonom yn cychwyn o Glan Dena ger Llyn Ogwen, ar fore cymylog yn dilyn wythnos o dywydd gaeafol. Sioned Llew, Chris Humphreys, Edward Griffiths, Dyfed, Hilary, Stephen Jones, Iolyn, Gerallt a Dwynwen a Elen.

Yr argraff o’r lôn oedd bod yr eira wedi dadmar ond gyda’r bâs cwmwl i lawr i 500 m, nid oedd yn teimlo’n wahanol i fore mis Hydref yn Eryri! Cerdded tuag at Fferm Tal-Llyn Ogwen a dilyn Afon Lloer tuag at Ffynnon Lloer ac i fyny am Ben yr Ole Wen.

Penderfyniad heb ddadl, ar ôl trafod y tywydd, oedd cymryd egwyliau byrrach mewn mannau cysgodol ar y ffordd i fyny Pen yr Ole Wen a’r ffordd i lawr o Garnedd Dafydd, oherwydd y gwyntoedd o’r Gogledd Orllewin a thymheredd minws dau ar y copaon.

Er ein bod wedi disgwyl cael sgrialu rhywfaint uwchben Ffynnon Lloer, roedd hi’n fater o gerdded drwy’r hafn a oedd yn llawn eira. Roedd y ddringfa i fyny Pen yr Ole Wen yn araf oherwydd eira dwfn a rhew yn uwch i fyny, lle gytunwyd roi cramponau ymlaen cyn cyrraedd y copa.  Cysgod tu ôl i Ben yr Ole Wen yn braf allan o’r gwynt, a oedd ar ei ffordd, pawb yn gynnes am gyfnod byr.

O Gopa Pen yr Ole Wen fe newidiodd bopeth. Gweld dim, gwyntoedd cryf, map yn cael eu chwythu i ffwrdd i lawr am Gwm Lloer byth i’w weld eto. Diolch byth, mi oedd gen i un arall yn y bag! Parhau o Ben yr Ole am Garnedd Fach mewn gwyntoedd ac eira, ar draws i Carnedd Dafydd lle gallai Sioned gael brechdan sydyn a chwarae angel eira!

Cerdded wedyn am gefn Ysgolion Duon, a gweld dim ond nodwydd cwmpawd. Ar ôl cadarnhau ein lleoliad mi oedd hi’n braf ofnadwy cael gostwng oddiar y grib i lawr am Ffynnon Lloer yn ôl allan o’r tywydd heriol. Penderfyniad priodol gan bawb yn y grŵp i gael cinio ger y llyn, rhyw awr cyn cyrraedd yn ôl yn y car.

Ymdrech wych gan bawb a diolch i Chris Humphreys a Stephen Jones am cadw llygad ar y grŵp o’r cefn. Diolch yn fawr i Sioned ac i Gerallt am fod y ffotograffwyr y dydd! Lluniau gwych.

Adroddiad Stephen Williams

Lluniau gan Gerallt ar Fflikr