HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Llyn Alwen 17 Mai




Dyma daith gyntaf i'r Clwb yn yr ardal hon (dwi'n meddwl!), hefyd fy nhaith gyntaf i'r Clwb.  Cychwynnodd 19 ohonom o argae'r Alwen ar ddiwrnod sych a chlir.

Llwybrau ychydig yn chwithig i ddechrau cyn cyrraedd Pentrellyncymer lle cafwyd ychydig o hanes a rhoddwyd cwis bach i'r criw!  Ymlaen wedyn i lawr y cwm ar hyd hyfrydwch gwanwyn at lan yr afon Alwen i Gaerddunod.  Yma cafwyd braslun o hanes y gaer a'i chysylltiad â Charadog.  Diolch i berchennog fferm Caerddunod am ganiatâd i droedio i ben y gaer.

Dringo wedyn i fyny'r llechwedd a chael golygfeydd gwych o fynydd Tal y Fan ar draws i Fryniau Clwyd a cherdded i fyny dyffryn Mynydd Poeth am adre trwy dir gwlyb a choedwig yr Alwen yn ôl i'r ceir, ac wrth gwrs y baned yng nghaffi'r Brenig. 

Y criw heddiw oedd Nia Wyn, Margaret, Llŷr, Irene, Gaynor, Dewi, Rita, Rhodri, Gwil, Nia, Eryl, Angharad, Olwen, Alun, John, Carys, Haf a Myra.

Adroddiad gan Dafydd

Lluniau gan Gwilym ar Fflikr