Gwenllïan a’i chopa 17 Mehefin
A hithau’n fore crasboeth o fis Mehefin – yn gwbl groes i’r dydd Sadwrn blaenorol - ddaru 21 ohonom - aelodau o’r Clwb, trigolion Dyffryn Ogwen a rhai o ychydig bellach i ffwrdd - ymgasglu ym maes parcio gwaelod Pant Dreiniog yn barod am her, sef esgyn i gopa Carnedd Gwenllïan. Roedd cacen ffrwythau dwys o ddarlith Ieuan Wyn am hanes y Dywysoges Gwenllïan dal i droelli ym meddyliau nifer ohonom, wedi’r noson flaenorol yn y Douglas.
Roedd rhai ohonom eisoes yn ‘nabod ein gilydd yn iawn ond roedd hen ddigon o sgwrsio p’un ai’n gydnabod ai pheidio wrth i ni ddringo’r llechweddau. A ninnau’n cydgerdded o dan awyr digwmwl cawsom y chwa o awel braf cyntaf wrth i ni frigo ysgwydd Y Garth ac yn wir roedd yn ddigon braf wrth i ni ymlwybro, ar ôl ein hoe paned ar ben Gyrn Wigau, heibio’r Drosgl a Bera Bach.
Yn naturiol roedd dipyn o ddisgwyliad wrth i ni nesáu at Y copa ond roedd rhaid cytuno gydag un aelod, mymryn o ‘swigen’ dirodres yng nghanol mwclis copaon y Carneddau yw Carnedd Gwenllïan o bell. Er mwyn sicrhau bod digon o danwydd yn y tanc i fynd am y copa un dyma stopio am ginio jest islaw’r Aryg a rhai ohonom yn sôn nad yw’r pentwr trawiadol yma o gerrig yma’n cael hanner digon o sylw ag y mae’n haeddu.
Hefo bwyd yn ein boliau aethom i’r copa yn ddigon handi a dyma ni’n eistedd yn wen o glust i glust o wybod ein bod wedi cyrraedd. Cawsom ein gwobrwyo gyda golygfeydd godidog ond roedd tawch yn chwarae triciau gyda llygaid wrth edrych at y gorwel dros Ynys Môn ac anodd oedd dweud y gwahaniaeth rhwng cwmwl a mynydd! Ar y pwynt yma chwyddodd ein nifer i 24 wrth i 3 trigolyn lleol ymuno hefo ni a dyma droi yn ôl am Fethesda a thafarn Y Siôr yn fwy penodol i rai.
Diolch i Gwynfor, Dafydd, Gwenllian, Maria a Helen, Wyn ap Iorwerth, Gary, Stephen, Chris a Hilary, Judith, Beryl a Gareth, Clive a Rhiannon, Arwyn, Hywel, Rhian, Sioned, John Arthur, Huw, Gwenno a Dewi am eu cwmni.
Adroddiad gan Siân.
Lluniau gan Sioned a Siân ar Fflikr