HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O Gonwy i Lanfairfechan 18 Hydref

Rhwng dydd Llun, pan ddaeth cynffon corwynt Offelia o’r America ar ein traws a bygythiad storm Brian o Iwerddon ddydd Gwener, cawsom ddiwrnod braf a sych i’n taith o ryw naw milltir ar hyd Llwybr Gogledd Cymru o Gonwy i Lanfairfechan.

Daeth 12 ynghyd yn Llanfairfechan i ddal bws 10:10 i Gonwy lle yr ymunodd tri arall â’r criw i ddringo’r 800 troedfedd i gopa Mynydd y Dref, a gweld sefyllfa bryngaer o Oes yr Haearn, a gweddillion cytiau crynion gerllaw.

Disgyn ychydig wedyn i Bensychnant cyn codi’n ôl i’r bryn uwchlaw Capel Ulo a chael man gyda golygfa dda dros y môr i gael ein cinio yng nghysgod wal gerrig ar ochr Maen Esgob. Ymlaen â ni ar hyd llwybr eglur gyda golygfeydd o Dal y Fan i’r chwith ohonom a chyrraedd y cylchoedd cerrig uwchlaw Penmaenmawr. Cafwyd cyfle yno i glywed ychydig am y ffatri bwyeill oedd yno yn Oes y Cerrig - peth o’r cynnyrch wedi ei ddarganfod mor bell i ffwrdd â Môr y Canoldir. Cyfle hefyd i glywed hanes trist y llong bleser Rothsay Castle a suddodd yn Awst 1831 gan foddi dros gant o bobl pan ddrylliwyd hi ger Ynys Seiriol mewn storm fawr, ond o ganlyniad yn bennaf i’w chyflwr gwael ac i ddiffyg gofal y capten meddw.

Y pymtheg ohonom, sef Llŷr, Margaret, Arwel, Rhodri, Gwil a Gwenan, John Parry, Haf, Iona, Gareth a Marian, Gwilym Jackson a Meinir Huws a’r ddau arweinydd Rhys Llwyd a Gareth Tilsley, yn cerdded ar i waered heibio fferm Blaen Llwyn yn ôl at y ceir ger glan y môr yn Llanfairfechan. Roedd paned a chacen i’w cael yn y caffi - caffi yn llawn o drugareddau di-rif yn ymwneud â Chalan Gaeaf i ddenu plant i’r lle.

Adroddiad gan Gareth a Rhys

Lluniau gan Gareth Williams ar Fflickr