HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tri llyn a Thri copa – de Crib Nantlle 18 Tachwedd

Niwl, niwl, a mwy o niwl, gyda ambell lygedyn bach o oleuni a mymryn o olygfa. Cychwynwyd o Lyn Dulyn a chroesi ar draws gwaelodion Garnedd Goch i gyrraedd y ffordd fach sy’n arwain at Lynnau Cwm Silyn. Gwelwyd y llynnoedd yn eu gwasgod o fynydd cyn iddynt ddiflannu i’r llwytni eto wrth i ni esgyn y fraich sy’n eu hamgylchynu. Ar ganol ein cinio ar ben Craig Cwm Silyn cododd y llen  o gwmwl, a Dyffryn Nantlle a’i chwareli, a’r môr yn dod i’r golwg gyntaf,  gyda Chwm Pennant yn dilyn reit sydyn. Hwre. Tywydd clir wedyn wrth ddychwelyd ar hyd y grib, ac i ben Garnedd Goch a wedyn Graig Goch, a lawr y fraich at y ceir yng Nghwm Dulyn.

Diolch am gwmni Anet, Sioned, Chris a Hilary, Steve, Edward, Iolo, Iolyn ac Eirlys, Sian, Eli, Myfyr a Richard.

Adroddiad gan Elen

Lluniau gan Sioned a Myfyr ar Fflickr