HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau 22 Ebrill



Ar fore Sadwrn, 22 Ebrill, a hithau’n fore braf o wanwyn, daeth 16 o aelodau ynghyd ar gyfer y daith ar hyd crib ogleddol y Rhinogydd, Ardudwy.  Yn gyntaf, dilynwyd ffordd Dŵr Cymru am Lynnoedd Eiddew Mawr a Bach cyn dilyn ffordd hynafol yr Oes Efydd.

Ar ôl pasio rhwng y ddau Lyn Eiddew, dilynwyd hen ffordd y gwaith mango (manganîs) wedyn cyn belled â’r gyffordd amlwg ar uchder o thua 500 metr yn y trac - tua’r gogledd i gyfeiriad Llyn Bedol (Llyn Dywarchen ar y map) a thua’r de i gyfeiriad Llyn Du.  Ellis Pritchard o’r ‘Welsh Manganese Co Ltd’ oedd perchennog y gwaith mango yn 1892, ac fe gafodd y cerddwyr gyfle i weld, a rhyfeddu, at olion amlwg y gwaith mango ac at y ffordd gywrain a sylweddol a grëwyd i gyfeiriad y de orllewin o’r fan hon yr holl ffordd i Lyn Du.  Syndod i amryw oedd y gred bod lori, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn teithio’n feunyddiol ar hyd y ffordd hon yr holl ffordd o stesion Talsarnau cyn belled â Llyn Du, ac yn treulio’r diwrnod cyfan yn cwblhau’r daith yno ac yn ôl! 

Ar y ffordd i Lyn Du, cafwyd cyfle i sylwi ar rai o’r planhigion sy’n tyfu ar y creigiau uwchben - rhai cyffredin fel suran y coed, tresgl y moch, y fioled, mefus gwyllt, ac ambell i blanhigyn Arctig Alpaidd fel pren y ddannoedd a’r tormaen porffor.  Sylwodd Lisa hefyd ar glwt toreithiog o redynach teneuwe Wilson (Hymenophyllum wilsonii) yn tyfu yng nghysgod ‘trwyn y cawr’.

Ar ôl cyrraedd Llyn Du, a chael cip ar yr olygfa trwy’r bwlch tua’r dwyrain am fryniau Meirionnydd a Chader Idris, bu amryw’n archwilio’r craciau enfawr yn wyneb y llwyfandir creigiog uwchben Llyn Du – nodwedd ddaearegol ryfeddol.  Ar un pryd roedd yr ardal hon a’i chreigiau Cambriaidd yn rhan o Gromen Harlech a arferai ymestyn yr holl ffordd o’r Wyddfa fawr i Gader Idris.

O Lyn Du dilynwyd y grib ar ochr ogleddol y llwyfandir cyn anelu am olygfan amlwg a chyfle i edrych i lawr ar Lyn Bedol ac aber yr afon Ddwyryd,  mynyddoedd Eryri a’r Moelwynion.  Ar ôl cael cinio ar y copa, ymlaen wedyn ar hyd y grib dros Moel Penolau, Diffwys a Moel Gyrafolen, a golygfeydd godidog i bob cyfeiriad, yn cynnwys Pen Llŷn ac Ynys Enlli i’r gorllewin, a Morfa Harlech ac Ardudwy oddi tanom. 

Yna, ar ôl troi ein cefnau ar Traws a’r cyffiniau, dilynwyd ffordd Oes yr Efydd unwaith eto i lawr drwy Gwm Moch anghysbell a’i ffynnon, hen bont a fferm hynafol, cyn belled â Bryn Cader Faner lle cafwyd cyfle i glywed dipyn bach o hanes yr heneb ryfeddol hon, sef carnedd gron sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd.  Mae’n un o’r hynafiaethau mwyaf adnabyddus a rhagorol o’r cyfnod hwn yng Nghymru gyfan os nad gwledydd Prydain, yn ôl yr archeolegydd Rhys Mwyn.  Ei phwrpas, mae’n debyg, oedd bod yn rhan o seremonïau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu’r meirw.  Ni ddylid cymysgu’r garnedd gron gyda’r garnedd gylchog sy’n fath cwbl wahanol o garnedd, a dydy hi ddim chwaith yn gylch cerrig.  Mae’n mesur tua 8m ar draws, gyda meini mwy wedi eu gosod ar ongl ar hyd yr ochrau.  Difrodwyd rhan o’r heneb hon gan y fyddin pan oedden nhw’n ymarfer cyn yr Ail  Ryfel Byd – na, dydy fandaliaeth yn ddim byd newydd, mae’n ymddangos!

Saif Bryn Cader Faner ar hen lwybr Oes yr Efydd, ac yn yr un cyffiniau mae nifer o hynafiaethau eraill, gan gynnwys olion cytiau, cylchoedd cerrig a meini hirion.  Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw ac mae’r brodorion a’i cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.  Gwelwyd ambell un o’r rhain wedi i ni ffarwelio â Bryn Cader Faner a dilyn ffordd Oes yr Efydd unwaith eto’n ôl tua’r de orllewin.  Ar y ffordd yn ôl i’r ceir aeth rhai i weld ‘pentref y moch daear’.  I ddod â’r diwrnod i ben ac i dorri’n syched ar ôl diwrnod eithriadol o braf, galwyd heibio tafarn y Ship Aground yn Nhalsarnau.

Diolch i Raymond a Sue, Arwel, Eli, Aneurin a Dilys, Ros, Lisa, Lucy, Gwyn Chwilog, Richard a Sue, Hywel, John Arthur a Rob am eu cwmni.

Adroddiad gan Haf M

Sylw Lucy am y diwrnod:
"Diolch unwaith eto am ddiwrnod mor arbennig, y ffordd perffaith i gael darganfod y Rhinogydd.  Roedd pawb yn groesawgar iawn a wnes i fwynhau bod allan rhywle mor wyllt a hardd gyda chi. 
Cofion cynnes, Lucy"

Lluniau gan Aneurin a un gan Lucy ar Fflickr