HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhinog Fach, Llethr a Moelfre 23 Medi

Cyfarfu deunaw o aelodau’r Clwb yn y maes parcio ger hen ysgol a chapel Cwm Nantcol cyn symud ambell gar yn nes i ddechrau’r daith. Cychwynwyd cerdded o fferm Cilcychwyn ac ymlaen heibio Graig Isaf a murddun Graig Uchaf gan ddilyn hen ffordd y gwaith mango (manganese) ac aros yno ger yr hen waith i gael paned. Roedd ambell i gawod ysgafn o law o gwmpas yn y bore.

Cerdded drosodd i Gwm Hosan wedyn, gan weld y llyn bach hyfryd o’r un enw. Dringo i fyny oddi yno i ben Rhinog Fach. A phan oeddem ar y copa, er mawr ddifyrrwch a chwilfrydedd, gwelwyd pump hofrennydd yn teithio gyda’i gilydd o’r dwyrain am Gwm Nantcol. Cerdded i lawr wedyn i ochr ddwyreiniol y Rhinog, cyn croesi’r gamfa gerrig at y graig uwchben LLyn Hywel ble y cafodd pawb ei ginio gan edrych i lawr ar y llyn hudolus.

Siom oedd gweld fod y niwl wedi dod lawr dros y Llethr cyn i ni gychwyn dringo’r llwybr serth i’r copa. Tra roedd pawb yn siarad ac yn cael seibiant ar gopa Llethr, gwelwyd yr haul yn ymddangos a’r niwl yn clirio gan adael i bawb gael rhyfeddu at y golygfeydd godidog. Lawr wedyn dros Foel y Blithcwm ac ymlaen am gopa Moelfre ble y cafwyd cyfle i fwynhau‘r golygfeydd o Fae Ceredigion, Llŷn, mynyddoedd Crib Nantlle ac Eryri yn ogystal a mynyddoedd Meirionnydd. Aethom i lawr heibio’r gwaith mango ar y Moelfre i gyfeiriad Cwm Nantcol.

Diolch i Gari Hughes, Edward, Chris, Hilary, Rhian Lewis, Sioned, Siân, Lisa, Morfudd, Hefin, Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Gwyn (Chwilog), Ieuan, Nia Wyn (Bethel) ac Eryl am eu cwmni i Iolyn a fi ar y daith.


Adroddiad gan Eirlys Wyn


Lluniau gan Eirlys a Sioned ar Fflikr