HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Berwyn 25 Mawrth



Ar ddiwrnod hynod o braf o wanwyn cynnar daeth 14 ynghyd ym maes parcio Llandrillo i werthfawrogi tywydd clir, golygfeydd ysblennydd o’r rhan fwyaf o fynyddoedd gogledd Cymru – a thu hwnt – a haul ac awyr las drwy’r dydd.

Y bwriad oedd dilyn taith 30 o Copaon Cymru, gan gymryd y fersiwn ferrach o’r daith honno. Wedi gadael y pentref i fyny’r ffordd serth y tu cefn i gapel a’r enw anghyffredin,Hananeel, ac, wedi sgwrs â ffarmwr lleol oedd yn bwydo’r defaid a’r ŵyn, buan y cyrhaeddwyd ‘croesffordd’ o lwybrau ac oedi i fwynhau’r golygfeydd o Landrillo a dyffryn Dyfrdwy yn rhoi’r cyfle inni gael ein gwynt atom. Yn hytrach na mynd ymlaen at Ben Bwlch Llandrillo, troi i’r dde amdani yno, i gyfeiriad Moel Tŷ Uchaf, gyda dargyfeiriad byr i yfed paned ar gerrig y cylch hynafol a thrawiadol iawn o’r Oes Efydd sy’n gorwedd fel coron ar gopa’r bryn.

Cerdded digon rhwydd wedyn gan godi’n raddol ar hyd y gefnen dros Foel Pearce (dyna’r enw ar y map) gyda darn serth yn arwain i gopa Cadair Fronwen (783 m). Roedd gwynt digon oer yno, felly ymlaen â ni i lawr yn serth i Fwlch Maen Gwynedd, gan adael y brif grib i droi tua’r dwyrain i gyfeiriad Tomla a chael cinio ger y maen talsyth sy’n rhoi ei enw i’r bwlch – maen a arferai nodi’r ffin, meddan nhw, rhwng Gwynedd a Phowys ac yna rhwng siroedd Meirion, Dinbych a Maldwyn.

Wedi gwledda yn yr haul, gan edrych draw dros fryniau di-ddiwedd canolbarth Cymru, roedd llethr serth ond byr yn ôl i’r grib ac ymlaen i gopa Cadair Berwyn. Nid y copa dwyreiniol efo’r golofn triongli yw’r man uchaf; 300 metr ymhellach mae’r gwir gopa (832 m – 2730’) tua tair metr yn uwch ac yn fwy creigiog beth bynnag.  Oddi yno, o bwynt ucha’r Berwyn, gellid gweld Pumlumon, Tarennau Meirionnydd, Cadair Idris, y ddwy Aran, Rhobell Fawr a’r Dduallt a chrib y Rhinogydd y tu hwnt iddynt, y ddau Foelwyn, Yr Wyddfa, y Glyderau a siâp unigryw Tryfan i’w weld yn glir, yna cadwyn y Carneddau, gyda Carnedd Llywelyn yn amlwg uwch y gweddill, ymlaen i Dal y Fan, Mynydd Hiraethog a Bryniau Clwyd – golygfa wych oedd yn wledd i’r llygaid am ran helaeth o’r daith.

Ymen rhyw gilometr go dda roeddem ar gopa Moel Sych cyn dychwelyd i Gadair Berwyn i ddilyn llwybr amlwg drwy’r brwyn a’r grug i lawr cefnen Foel Fawr ac yna troi tua’r gogledd ar hyd tir gwlyb a chorsiog – a chael hwyl (gawn ni ddweud?) yn croesi ambell ffos ac yna nant fwy sylweddol Clochnant ei hun. Ymhen dim, roeddem ar ffordd drol fyddai’n troi yn ffordd i gerbydau i’n harwain yn ôl i Landrillo.

Cafwyd cwmni hwyliog a diddan iawn Morfudd, Rhian (o Fangor), Cemlyn, Edward, Chris a Hilary, Haydn Edwards, Dei Tomos, Dilys Phillips, Marian Hughes, Gareth Wyn, Angharad, Aled ac Eryl. Croeso arbennig i un neu ddau ar eu taith gyntaf. Yn anffodus, ni allwn warantu tywydd cystal bob tro!

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Dilys ar Fflickr