HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cymoedd yr Wyddfa 27 Mai




O Ben y Pas i Gwm Glas a Chlogwyn Du'r Arddu, 27 Mai.

Ymgynullodd naw ohonom ym Mhen y Pas am hanner awr wedi naw ar fore eitha clir a chynnes ond gyda rhagolygon tywydd reit sâl am weddill y diwrnod. Daeth Gareth, Eryl, Tegwyn a Richard yno o'r dwyrain ar droed o Ben y Gwryd a daeth Elen, Rhian, Sioned, Janet a minnau o'r gorllewin i fyny Bwlch Llanberis yn y bws Sherpa, a honno'n llawn dop, gan obeithio mwynhau taith weddol heriol i weld planhigion arbennig alpaidd arctig Yr Wyddfa.

Roedd yr hanner awr gyntaf o gerdded ymysg bwrlwm 'y niferoedd' ar lwybr Pedol yr Wyddfa hyd at gyrraedd dechrau y tamaid serth o dan Crib Goch lle gadawsom y llwybr yma a tharo ar draws wyneb ogleddol Grib Goch ar lwybr eithaf aneglur. Llwyddom i ddilyn ambell garnedd o gerrig unigol sy'n marcio'r ffordd yma, ew, petha handi ydi rhain, cyn cyrraedd un pentwr pendant ar lecyn bach gwastad hanner ffordd ar draws y gwyneb.

Ac o'r fan honno ymlaen mae'r llwybr fel llwybr defaid ar silff gul iawn cannoedd o droedfeddi uwchben un o gymoedd unica'r Wyddfa a'i chriw, Cwm Beudy Mawr. Prin does neb yn mynychu'r cwm yma heblaw ambell i gi defaid ers i'r dringwyr cynta fel G.Winthrop Young ddringo yno ar droad y ganrif ddiwethaf.

Troedio ymlaen yn ofalus ar y silff draw at Gwm Gas a gweld y blodau arctic yn eu gogoniant, tormaen serennog, tormaen mwsoglyd, mwsogl gludus, a.y.y.b. Tegwyn ddaeth i'r blaen, yn wybodus iawn am y blodau a'u henwau Cymraeg, a Janet hefyd yn wybodus yn rhannu ei gwybodaeth. Tyfu ar greigiau gwahannol mae y planhigion, creigiau meddal fel basalt sy'n rhyddhau ei maeth, yn wahannol i'r creigiau igneaidd caled mwy cyffredin fel Rhyolite. Felly canfod y creigiau meddal yw'r gamp i ffendio'r blodau. Mae canfod blodau coedlannau i fyny yma yn annisgwyl, fel suran y coed (wood sorrel) a fioledau; tystiolaeth sy'n dangos, heb effeithau dyn a'u hanifeiliaid dros y canrifoedd ers oes y rhew, mai coediog fyddai hen wisg naturiol Eryri, hyd yn oed i'r uchelfannau yma. Hefyd yma gwelsom goed meryw (juniper).

Cael panad wedyn dan Crib Goch ar greigiau folcanaidd Cwm Glas, ffefryn o gwm i lawer cerddwr. Ond i mewn ddaeth y tywydd a'n cau mewn niwl trwchus; yma roedd nifer o glogwynni bychan peryglus o'n cwmpas a dim llwybr pendant. A handi oedd cael cecran y gwylannod penddu o Lyn Glas, lle maent yn nythu, o fewn clyw i roi cyfeiriad inni. Aethom fyny o dan Drwyn y Person, a chlogwyn trawiadol Clogwyn y Ddysgl, ond heb eu gweld o gwbwl, heibio i Lyn Bach a sgramblo'n ofalus i fyny ochor serth Gyrn Las, tir anifyr dan droed, cyn cyrraedd yr uchelfannau gwastad a chlywed swn trên bach yr Wyddfa. Stopio am ginio cyn cyrraedd 'y torfeydd' unwaith eto ar Allt Goch, byd gwahannol ar lwybr Llanberis ymysg y cannoedd ger stesion Clogwyn.

Yna i lawr Allt Moses ac i mewn i unigrwydd Cwm Clogwyn Du'r Arddu, un o'm hoff leoedd i, gyda godra'r clogwyn allan o'r niwl bellach. Ond cau wnaeth y niwl eto ac yn ogystal daeth y glaw fel cyrhaeddom odrau dringfeydd. Yma gwelsom Brwynddail y Mynydd, neu Lili'r Wyddfa, y Lloydia Serotina yn ei blodau ac ar ei gorau. Tynnu llunia. Ar ôl hefyd edrych ar rai o ddringfeydd enwog y clogwyn yn diflannu i fyny i'r nenfwd niwl penderfynwyd i beidio ag esgyn y teras dwyreiniol fel oedd y bwriad, a'i throi am adra. Y dwyreniwyr nôl fyny Allt Moses a thros y top, y gorllewinwyr i lawr heibio i Lyn Du'r Arddu, Maen Du'r Arddu ag i lawr gwastadedd unig Cwm Brwynnog, nôl i Lanberis heibio'r Helfa Fawr a Hebron. Diwrnod amrywiol, hir.

Adroddiad Alun Hughes

Lluniau gan Alun ar Fflikr