HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau 28 Ionawr



Daeth 16 ohonom ynghyd ar fore gwlyb ac oer i’r maes parcio dan Tryfan – ein bwriad gwreiddiol oedd y grib Ogleddol a’r Ddanheddog ond gan fod y tywydd reit annifyr. penderfynwyd anghofio'r cribau a rowndio trwyn Tryfan ac anelu am Gwm Tryfan.

Dilyn ochor yr A5 i gyfeiriad Glan Dena, yna trwy’r giat ac i fyny’r llwybr am Tryfan Bach ac i fyny am geg y cwm – y tywydd yn dal yn wlyb ac yn oer, gyda’r glaw yn troi’n eirlaw. Y cymylau yn isel tra dringem yn uwch heibio godre gwyneb dwyreiniol Tryfan ac erbyn i ni ddechrau dringo’r sgri i ymuno hefo Llwybr y Mwynwyr roedd yn pluo go iawn a’r llwydni wedi troi'n wyn.

Paned sydyn ar y gwastad uwchben Llyn Caseg Fraith, yna i fyny i’r niwl ar eira meddal i fyny i gyfeiriad y Glyder Fach – er ein bod yn weddol agos i’r Gwyliwr roedd yn anodd ei weld gan ei bod mor niwlog. Rowndio copa’r Fach ar y dde gan rannu cyn cyrraedd Castell y Gwynt – Chris a Maldwyn yn mynd trosto, a’r gweddill yn mynd o’i amgylch i’r chwith. Sgramblo difyr yn yr eira ffres cyn ailymuno a’n gilydd ar Fwlch y Ddwy Glyder a chanu penblwydd hapus i Elen, cyn gwynebu gwynt cryf a chesair ar y llwybr i fyny heibio ymyl Cwm Cneifion i gopa’r Glyder Fawr. Amodau eithaf oer a gaeafol, felly chwilio am lecyn cysgodol i gael paned arall yng nghysgod yr ail gopa – pa run di’r un uchaf? – cyn diflannu’n sydyn i lawr i gyfeiriad Llyn y Cwn. Roedd y carneddi amlwg yn gymorth i ddarganfod ein ffordd i ben y rhigolau sy’n disgyn yn serth i gyfeiriad y llyn, a chyn i ni gyrraedd y gwaelod roedd y tywydd yn gwella rhyw ychydig.

Stop bach arall cyn dilyn y llwybr i gyfeiriad Clogwyn y Geifr a dilyn y grisiau llithrig yn ofalus i lawr at y sgri o dan y Twll Du, ac ar letraws i gyfeiriad Rhiwiau’r Caws – panad olaf cyn croesi’r nant a dilyn y llwybr i lawr drwy Gwm Idwal ac i lawr at Fwthyn Ogwen.

Diolch i’r criw – Chris a Hilary (Bethesda), Edward a Gareth (Carmel), Eirwen ac Alun (Fachwen), Alun (Caergybi), Iolo (Caernarfon), Dafydd (Llanwnda), Richard a Marion (Rhuthun), Morfudd (Bethel), George (Caernarfon), Elen a Mari a minnau o Benygroes. 

Adroddiad gan Maldwyn

Lluniau i ddod